Pryd o fwyd arbennig o ddinas Nice yn wreiddiol ond sy'n un o brydau bwyd traddodiadol Provence gyfan hefyd yw ratatouille.
Mae'n cynnwys llysiau wedi'u coginio, yn enwedig aubergines, nionod, courgettes, pupurau a thomatos. Does 'na ddim rysét safonol i'r pryd o fwyd gwerinol poblogaidd hwn, ond ceir dau ddull traddodiadol : coginio'r llysiau i gyd gyda'i gilydd mewn padell ffrio, neu eu coginio fesul un ac yna eu coginio gyda'i gilydd.
Mae'r Ffrancod yn bwyta ratatouille yn aml gyda reis neu basta.
© MMXXIII Rich X Search. We shall prevail. All rights reserved. Rich X Search