Sgandinafiaeth

Poster o'r 19g o filwyr y gwledydd Sgandinafaidd (ch-dde) Norwy, Denmarc a Sweden yn gafael dwylo mewn brawdgarwch ac undod (noder nad oedd Norwy yn annibynnol ar y pryd ac yn rhan o Sweden
Cyfarfod myfyrwyr a blaid sgandinafiaeth, Copenhagen, 1845
Cyfarfod yn 1856 o fyfyrwyr Sgandinafaidd yn Uppsala, Sweden, gyda gorymdaith wrth ymyl Svandammen
Logo Sgandinafiaeth: meillion tair deilen yn cynrychioli undeb Denmarc, Sweden a Norwy

Mae Sgandinafiaeth, a elwir hefyd sgandinafyddiaeth[angen ffynhonnell], Llychlyniaeth[angen ffynhonnell] yn ideoleg sy'n cefnogi gwahanol raddau o gydweithrediad ymhlith y gwledydd Sgandinafaidd. Yn Saesneg, defnyddir termau megis scandanivism, scandinavianism[1]; neu pan-scandanavianism[2]. Mae sgandinafiaeth yn cynnwys y mudiad llenyddol, ieithyddol a diwylliannol sy'n canolbwyntio ar hyrwyddo gorffennol Sgandinafaidd, treftadaeth ddiwylliannol, a mytholeg Llychlynnaid sy'n gyffredin i'r tair gwlad, yn ogystal â chontinwwm iaith neu dafodiaith gyffredin (o iaith hynafiad cyffredin yr Hen Norseg). Arweiniodd sgandinafiaeth at y ffurfio cyfnodolion a chymdeithasau ar y cyd i gefnogi llenyddiaeth ac ieithoedd Sgandinafaidd.[3] Mae Nordiaeth yn ehangu'r cwmpas i gynnwys Gwlad yr Iâ a'r Ffindir.[4]

Gellir gweld cymhariaeth rhwng agweddau ar Sgandinafiaeth â Phan-Geltiaeth y gwledydd Celtaidd.

  1. "Pan-Scandinavianism". Encyclopedia Britannica. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2018-02-07.
  2. "Pan-Scandinavianism" Archifwyd 2007-09-29 yn y Peiriant Wayback.. (2007). In Encyclopædia Britannica. Retrieved April 29, 2007, from Encyclopædia Britannica Online.
  3. The Literary Scandinavism Archifwyd 2007-06-23 yn y Peiriant Wayback.. Øresundstid, 2003. Retrieved 6 May 2007.
  4. "Nordism". nordics.info (yn Saesneg). Cyrchwyd 2021-08-31.

© MMXXIII Rich X Search. We shall prevail. All rights reserved. Rich X Search