Troelliad

Troelliad
Mathmudiant Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Sffêr yn cylchdroi yn dangos effaith troelliad
  Cylchdroi
  Blaenoriad
  Troelliad
yng ngogwyddiad planed

Mewn seryddiaeth, afreoleidd-dra bychan ym mlaenoriad y cyhydnosau yw troelliad (Saesneg: nutation). Blaenoriad yw siglo araf y Ddaear wrth iddi droelli ar ei hechel; mae gan y siglo hwn gyfnod o tua 25,772 o flynyddoedd. Wedi'i arosod ar y symudiad araf hirdymor hwn mae osgiliad llai, cyflymach, sef troelliad, sydd â chyfnod o 18.6 mlynedd ac osgled o 9.2 eiliad o arc. Achosir troelliad yn bennaf gan gylchdro'r Lleuad o amgylch y Ddaear. Mae'r Lleuad yn cylchdroi'r Ddaear ar ongl ychydig yn wahanol i'r ongl y mae'r Ddaear yn cylchdroi'r Haul, ac mae'r effaith disgyrchol y gwahaniaeth hwn (5.15°) yn achosi'r siglo. Y seryddwr o Sais James Bradley a ddarganfodd yr effaith hon yn 1748.[1]

  1. (Saesneg) nutation. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 5 Ebrill 2025.

© MMXXIII Rich X Search. We shall prevail. All rights reserved. Rich X Search