Ysgutor

Person a enwir gan gymynnwr yn ei ewyllys yw ysgutor[1] (lluosog: ysgutorion; be. ysgutores, lluosog: ysgutoresau) sy'n gyfrifol am gyflawni dymuniadau'r ewyllys. Ymysg ei ddyletswyddau mae dosbarthu eiddo i'r buddiolwyr a enwir yn yr ewyllys, ceisio darganfod unrhyw etifeddion eraill, gwneud unrhyw roddion elusennol a nodir, a chyfrifo'r trethi ystadau. Weithiau penodir ysgutor i fod yn gyfrifol am ran arbennig o ystad y cymynnwr, megis ysgutor llenyddol sy'n gyfrifol am ystad lenyddol.

  1. Lewis, Robyn. Termau Cyfraith (Llandysul, Gwasg Gomer, 1972), t. 77.

© MMXXIII Rich X Search. We shall prevail. All rights reserved. Rich X Search