Cerddor a chyfansoddwr Groegaidd oedd Evángelos Odysséas Papathanassiou (Groeg Ευάγγελος Οδυσσέας Παπαθανασίου [eˈvaɲɟelos oðiˈseas papaθanaˈsi.u]; 29 Mawrth 1943 – 17 Mai 2022), a elwir yn broffesiynol fel Vangelis (/væŋˈɡɛlɪs / vang-GHEL-iss ; Groeg: Βαγγέλης [vaɲˈɟelis]). Roedd yn gyfansoddwr caneuon a cynhyrchydd cerddoriaeth gerddorfaol electronig, flaengar, amgylchynol a chlasurol. Roedd yn fwyaf adnabyddus am ei sgôr a enillodd Wobr yr Academi i Chariots of Fire (1981), yn ogystal ag am gyfansoddi sgoriau i'r ffilmiau Blade Runner (1982), Missing (1982), Antarctica (1983), The Bounty (1984), 1492: Conquest of Paradise (1992), ac Alexander (2004), a defnyddiwyd ei gerddoriaeth yng nghyfres ddogfen PBS Cosmos: A Personal Voyage (1980) gan Carl Sagan.
Yn enedigol o Agria, dechreuodd Vangelis ei yrfa yn gweithio gyda sawl band pop o'r 1960au fel The Forminx ac Aphrodite's Child, ac fe aeth albwm Aphrodite's Child - 666 (1972) ymlaen i gael ei gydnabod fel clasur roc blaengar-seicedelig. Trwy gydol y 1970au, cyfansoddodd Vangelis sgoriau ar gyfer nifer o raglenni dogfen anifeiliaid, gan gynnwys L'Apocalypse des Animaux, La Fête sauvage ac Opéra sauvage; aeth llwyddiant y gerddoriaeth hyn ag ef i fyd sgorio ffilmiau. Ym 1975, sefydlodd ei stiwdio 16-trac newydd, Nemo Studios yn Llundain, a enwyd ganddo yn "labordy", gan ryddhau llawer o albymau stiwdio unigol lle bu'n arbrofi gyda cherddoriaeth a chysyniadau, gan gynnwys Heaven and Hell a China ymhlith eraill. Yn gynnar yn yr 1980s, ffurfiodd Vangelis bartneriaeth gerddorol gyda Jon Anderson, prif leisydd y band roc blaengar Yes, a rhyddhaodd y ddeuawd sawl albwm gyda'i gilydd fel “Jon and Vangelis”. Bu hefyd yn cydweithio ag Irene Papas ar ddau albwm o ganeuon traddodiadol a chrefyddol Groegaidd.
Yn 1980, cyfansoddodd y sgôr ar gyfer y ffilm Chariots of Fire, ac enillodd Wobr yr Academi am y Sgôr Wreiddiol Orau amdani. Aeth sengl o thema’r ffilm i frig siart Billboard Hot 100 yr Unol Daleithiau ac fe’i defnyddiwyd fel y gerddoriaeth gefndir yn seremonïau cyflwyno medalau enillwyr Gemau Olympaidd Llundain 2012. Cyfansoddodd hefyd anthem swyddogol Cwpan y Byd FIFA 2002 a gynhaliwyd yng Nghorea a Japan. Yn ei ugain mlynedd diwethaf, cydweithiodd Vangelis â NASA ac ESA ar brosiectau cerddoriaeth Mythodea, Rosetta a Juno to Jupiter, sef ei 23ain albwm stiwdio unigol (a'i olaf) yn 2021.
Yn dilyn gyrfa oedd yn ymestyn dros 50 mlynedd ym myd cerddoriaeth ac wedi iddo gyfansoddi a pherfformio mwy na 50 o albymau, ystyrior Vangelis yn un o’r ffigurau pwysicaf yn hanes cerddoriaeth electronig, a cherddoriaeth ffilmiau cyfoes. Roedd yn adnabyddus am ddefnyddio llawer o offerynnau electronig ar ffurf "cerddorfa led-glasurol un dyn" gan gyfansoddi a pherfformio ar y fersiwn gyntaf.
© MMXXIII Rich X Search. We shall prevail. All rights reserved. Rich X Search