Dinas yn Cosofo yw Prizren (Albaneg: Prizreni, Serbeg: Призрен, IPA Albaneg: prîzrɛn). Hi yw'r ail ddinas fwyaf yn y wlad ar ôl Prishtina, er mai hi oedd y prif dref a'r dref weinyddol i'r wlad ar un adeg. Lleolir hi yn sir Prizren. Yn ôl cyfrifiad 2011 roedd gan ddinas Prizren 85,119 o breswylwyr tra bod gan y sir 177,781.. Mae Prizren yn ddinas hanesyddol ar lan yr afon Bistrica ar lethrau mynyddoedd y Šar (Albaneg: Malet e Sharrit) yn neheudir Cosofo. Mae gan sir Prizren ffin ag Albania a Gweriniaeth Macedonia a cheir croesfan yno. Gan deithio ar hyd y ffyrdd, mae Prezren yn 85 km i'r de o'r brifddinas, Prishtina, 175 km i'r gogledd ddwyrain o brifddinas Albania, Tirana a 99 km i'r gogledd orllewin o Skopje, prifddinas Macedonia.
© MMXXIII Rich X Search. We shall prevail. All rights reserved. Rich X Search