10 results found for: “CIA”.

Request time (Page generated in 0.2301 seconds.)

CIA

cudd-wybodaeth dramor ar gyfer llywodraeth ffederal Unol Daleithiau America yw'r CIA (Saesneg: Central Intelligence Agency, yn Gymraeg Asiantaeth Gwybodaeth Ganolog)...

Last Update: 2024-11-01T11:10:01Z Word Count : 821

View Rich Text Page View Plain Text Page

Amor & Cia

Drama-gomedi ar ffilm gan y cyfarwyddwr Helvécio Ratton yw Amor & Cia a gyhoeddwyd yn 1998. Fe'i cynhyrchwyd yn Portiwgal. Sgwennwyd y sgript yn wreiddiol...

Last Update: 2024-10-13T04:02:48Z Word Count : 145

View Rich Text Page View Plain Text Page

CIA Code Name: Alexa

Ffilm llawn cyffro gan y cyfarwyddwr Joseph Merhi yw CIA Code Name: Alexa a gyhoeddwyd yn 1993. Fe'i cynhyrchwyd yn Unol Daleithiau America. Sgwennwyd...

Last Update: 2024-03-12T19:08:59Z Word Count : 140

View Rich Text Page View Plain Text Page

CIA contro KGB

Ffilm am ysbïwyr gan y cyfarwyddwr Claude d'Anna yw CIA contro KGB a gyhoeddwyd yn 1978. Fe'i cynhyrchwyd yn yr Eidal a Ffrainc. Sgwennwyd y sgript yn...

Last Update: 2024-10-15T14:36:45Z Word Count : 171

View Rich Text Page View Plain Text Page

Bras y graig

lluosog: breision y graig) a adnabyddir hefyd gyda'i enw gwyddonol Emberiza cia; yr enw Saesneg arno yw Rock bunting. Mae'n perthyn i deulu'r Breision (Lladin:...

Last Update: 2025-03-26T04:55:55Z Word Count : 207

View Rich Text Page View Plain Text Page

CIA II: Target Alexa

Ffilm llawn cyffro gan y cyfarwyddwr Lorenzo Lamas yw CIA II: Target Alexa a gyhoeddwyd yn 1993. Fe'i cynhyrchwyd gan Joseph Merhi yn Unol Daleithiau...

Last Update: 2024-10-14T02:11:28Z Word Count : 211

View Rich Text Page View Plain Text Page

Ynysoedd Gogledd Mariana

ynysoedd mewn blynyddoedd diweddar.  Northern Mariana Islands. CIA World Factbook. CIA. Adalwyd ar 4 Awst, 2011. (Saesneg) Llywodraeth Ynysoedd Gogledd...

Last Update: 2022-07-16T21:38:59Z Word Count : 127

View Rich Text Page View Plain Text Page

Coup d'état Tsile (1973)

Cyfnod y Rhyfel Oer oedd hyn. Ym Medi 1970, dywedodd yr Arlywydd Nixon wrth y CIA nad oedd llywodraeth gan Allende yn dderbyniol ac awdurdododd $10,000,000...

Last Update: 2024-09-06T10:00:23Z Word Count : 553

View Rich Text Page View Plain Text Page

Dienstbereit: Nazis und Faschisten im Auftrag der CIA

cyfarwyddwr Dirk Pohlmann yw Dienstbereit: Nazis und Faschisten im Auftrag der CIA a gyhoeddwyd yn 2015. Fe'i cynhyrchwyd yn yr Almaen. Sgwennwyd y sgript yn...

Last Update: 2024-10-13T12:49:58Z Word Count : 129

View Rich Text Page View Plain Text Page

Safle du

carcharorion wrth i awyrennau'r CIA a ddefnyddir yn y rhaglen alltudiaeth hynod hedfan trwy diriogaeth Ewropeaidd. Cydnabuwyd bod y CIA yn cynnal carchardai cudd...

Last Update: 2013-03-10T02:47:07Z Word Count : 401

View Rich Text Page View Plain Text Page

Main result

CIA

Asiantaeth sydd yn gyfrifol am gasglu a dadansoddi cudd-wybodaeth dramor ar gyfer llywodraeth ffederal Unol Daleithiau America yw'r CIA (Saesneg: Central Intelligence Agency, yn Gymraeg Asiantaeth Gwybodaeth Ganolog). Cesglir gwybodaeth ledled y byd, yn bennaf drwy ddefnyddio cudd-wybodaeth ddynol (HUMINT), a chaiff ei phrosesu a'i dadansoddi gan arbenigwyr y CIA yn ei bencadlys yn Langley, Virginia, ger y brifddinas Washington, D.C., ac mewn adrannau ar draws yr Unol Daleithiau a'r byd. Y CIA yw un o brif gyrff "y Gymuned Gudd-wybodaeth" Americanaidd, ac felly mae'n adrodd i'r Cyfarwyddwr dros Gudd-wybodaeth Genedlaethol ac yn canolbwytio yn bennaf ar ddarparu gwybodaeth i'r Arlywydd a'r Cabinet. Nid yw'r CIA yn wasanaeth diogelwch gwladol megis yr FBI, ac felly nid oes ganddo ddyletswydd i orfodi'r gyfraith nac i weithredu fel heddlu tu mewn i ffiniau'r Unol Daleithiau. Dim ond ychydig o hawl ac adnoddau sydd gan y CIA i gasglu cudd-wybodaeth yn fewnwladol. Er nad yw'n unigryw wrth arbenigo mewn HUMINT, mae'r CIA yn gweithio i gydlynu a rheoli'n genedlaethol gweithgareddau HUMINT yr holl Gymuned Gudd-wybodaeth. Y CIA yw'r unig asiantaeth a chanddi'r hawl gyfreithlon i weithredu ac arolygu ymgyrchoedd cudd mewn gwledydd eraill ar orchymyn yr arlywydd. Defnyddia adrannau tactegol, megis y Special Activities Division, i ddylanwadu ar wleidyddiaeth mewn gwledydd eraill. Ymgododd y CIA o'r Office of Strategic Services (OSS), asiantaeth a gyd-drefnodd ysbïo, propaganda, ac ymgyrchoedd cudd eraill megis "tanseilio'r gelyn" ar gyfer Lluoedd Arfog yr Unol Daleithiau yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Sefydlwyd y CIA gan Ddeddf Diogelwch Cenedlaethol 1947. Yn ystod y Rhyfel Oer, y CIA oedd un o brif arfau'r Unol Daleithiau yn erbyn yr Undeb Sofietaidd a'r byd comiwnyddol. Mae tystiolaeth bendant o ran y CIA mewn sawl achos o ymyrraeth dramor, gan gynnwys disodli'r llywodraethau yn Iran (1953), Gwatemala (1954), a Chile (1973), ac mewn cefnogi unbenaethau a llywodraethau gormesol, a masnachu cyffuriau a gwerthu arfau. Er cwymp yr Undeb Sofietaidd ar ddechrau'r 1990au, mae'r CIA wedi ehangu ei swyddogaeth yn fwyfwy ers diwedd y Rhyfel Oer, gan gynnwys ymgyrchoedd parafilwrol cudd. Ar droad y ganrif, symudodd canolbwynt y cyrff diogelwch cenedlaethol i derfysgaeth, ac hynny'n llwyr yn sgil ymosodiadau 9/11. Gwelid yr ymosodiad hwnnw yn fethiant cudd-wybodaeth gan yr holl Gymuned Gudd-wybodaeth, a'r CIA yn enwedig. Gwnaed ymdrechion i wella arferion yr asiantaethau wrth gydlynu cudd-wybodaeth, a rhoddwyd rhagor o gyllideb ac adnoddau iddynt ym maes gwrth-derfysgaeth. Cyn Deddf Diwygo Cudd-wybodaeth ac Atal Terfysgaeth 2004, bu Cyfarwyddwr y CIA ar y cyd yn bennaeth ar y Gymuned Gudd-wybodaeth; bellach, mae'r Cyfarwyddwr dros Gudd-wybodaeth Genedlaethol (DNI) yn uwch na'r CIA yn y gadwyn awdurdod. Er gwaethaf i'r corff drosglwyddo peth grym i'r DNI, mae'r CIA wedi tyfu ers 9/11. Yn ôl The Washington Post, y CIA oedd piau'r gyllideb uchaf o holl asiantaethau'r Gymuned Gudd-wybodaeth yn y flwyddyn 2010. Yn ddiweddar mae un o'i adrannau mwyaf, yr Information Operations Center (IOC), wedi dechrau canolbwyntio ar seiber-ryfela yn fwy na therfysgaeth fel bygythiad i UDA. Nodai ambell llwyddiant yn hanes diweddar y CIA, yn enwedig darganfod lleoliad Osama bin Laden, ond cyhuddai'r asiantaeth yn ffyrnig am ei weithgareddau sy'n groes i gyfraith ryngwladol a deddfau rhyfel megis extraordinary rendition ac artaith.


© MMXXIII Rich X Search. We shall prevail. All rights reserved. Rich X Search