Mae gan Nigeria y diwydiant ffilm cenedlaethol mwyaf o holl wledydd Affrica. Gwneir y nifer fwyaf o ffilmiau Nigeriaidd yn yr iaith Saesneg, iaith gyffredin y wlad, ond cynhyrchir hefyd lluniau yn Iorwba, Hawsa, ac Igbo, ac weithiau ieithoedd brodorol eraill. Yn gyffredinol, rhennir hanes ffilm yn Nigeria yn bedwar cyfnod: yr oes drefedigaethol (cyn y 1960au), yr oes euraid (1960au–1980au), oes y fideo (1990au–2000au), a Sinema Newydd Nigeria (ers y 2000au). Gelwir diwydiant ffilm Nigeria yn aml yn "Nollywood", cyfansoddair cywasgedig o Nigeria ac Hollywood, er bod rhai yn Nigeria yn gwrthod yr enw hwnnw.
© MMXXIII Rich X Search. We shall prevail. All rights reserved. Rich X Search