Kyiv (Wcreineg: Київ) yw prifddinas Wcráin. Saif ar afon Dnieper. Dan drefn yr Undeb Sofietaidd roedd Kyiv yn brifddinas Gweriniaeth Sofietaidd Wcráin hyd at 1991. Yn y ddinas y digwyddodd y "Chwyldro Oren" yn 2004, gwrthryfel am newid y llywodraeth. Viktor Yushchenko a enillodd yr etholiad yn 2005.
© MMXXIII Rich X Search. We shall prevail. All rights reserved. Rich X Search