Gwleidydd Prydeinig yw Mary Elizabeth "Liz" Truss (ganwyd 26 Gorffennaf 1975) a fu'n brif weinidog y Deyrnas Unedig rhwng 6 Medi 2022 a 25 Hydref 2022, y cyfnod lleiaf yn y swydd yn hanes y DU. Roedd hi'n aelod o'r Cabinet o dan y prif weinidogion David Cameron, Theresa May a Boris Johnson. Roedd hi'n ysgrifennydd tramor rhwng 2021 a 2022. Mae Truss wedi bod yn Aelod Seneddol (AS) dros Dde Orllewin Norfolk ers 2010. Cafodd Truss ei geni yn Rhydychen, lle bu'n arweinydd Democratiaid Rhyddfrydol Prifysgol Rhydychen. Roedd ei thad mewn trallod pan ymunodd â'r Blaid Geidwadol. Roedd ei mam yn aelod o'r CND, ond cytunodd i gefnogi ymgyrch ei merch i ddod yn AS. Cyhoeddodd ei hymddiswyddiad fel prif weinidog ar 20 Hydref 2022, ar ôl 45 diwrnod yn y swydd, ond parhaodd yn y swydd nes i'w olynydd ei dewis. Hi oedd y prif weinidog oedd yn y swydd am y cyfnod byrraf yn hanes y Deyrnas Unedig. Ar 24 Hydref 2022 etholwyd Rishi Sunak fel ei olynydd, yn arweinydd y Blaid Geidwadol, a daeth yn Brif Weinidog y diwrnod canlynol. Yn Etholiad cyffredinol y Deyrnas Unedig, 2024, collodd Truss ei sedd seneddol i Lafur.
© MMXXIII Rich X Search. We shall prevail. All rights reserved. Rich X Search