10 results found for: “Poland”.

Request time (Page generated in 0.2126 seconds.)

Gwlad Pwyl

topograffeg y rhanbarth i'r dim: tirwedd gwastad. Ffurfiwyd yr enw Saesneg Poland yn y 1560au o'r Almaeneg Pole ‘Pwyliad’ a'r ôl-ddodiad land, gan ddynodi...

Last Update: 2024-05-28T02:14:41Z Word Count : 3860

View Rich Text Page View Plain Text Page

Poland, Efrog Newydd

Pentrefi yn , yn nhalaith Efrog Newydd, yw Poland, Efrog Newydd. Ceir nifer o bobl nodedig a anwyd yn Poland, gan gynnwys: Rhestr Wicidata: Diweddarwch...

Last Update: 2022-06-17T06:51:07Z Word Count : 40

View Rich Text Page View Plain Text Page

War-Torn Poland

Ffilm ddogfen heb sain (na llais) yw War-Torn Poland a gyhoeddwyd yn 1916. Fe'i cynhyrchwyd yn Unol Daleithiau America. Mae gan y ffilm yma wedd gymharol...

Last Update: 2024-03-13T00:17:09Z Word Count : 137

View Rich Text Page View Plain Text Page

Poland, Maine

Tref yn Androscoggin County, yn nhalaith Maine, Unol Daleithiau America yw Poland, Maine. ac fe'i sefydlwyd ym 1795. Mae ganddi arwynebedd o 47.19 ac ar ei...

Last Update: 2024-03-16T09:09:21Z Word Count : 154

View Rich Text Page View Plain Text Page

Poland, Ohio

Pentrefi yn Mahoning County, yn nhalaith Ohio, Unol Daleithiau America yw Poland, Ohio. ac fe'i sefydlwyd ym 1802. Mae ganddi arwynebedd o 4.289939 cilometr...

Last Update: 2024-04-10T04:51:47Z Word Count : 168

View Rich Text Page View Plain Text Page

Made in Poland

Ffilm comedi trasig gan y cyfarwyddwr Przemysław Wojcieszek yw Made in Poland a gyhoeddwyd yn 2011. Fe'i cynhyrchwyd yng Ngwlad Pwyl. Sgwennwyd y sgript...

Last Update: 2024-03-13T02:53:48Z Word Count : 137

View Rich Text Page View Plain Text Page

Pwyliaid

Poland in 2017)" (PDF). Mały Rocznik Statystyczny Polski 2018 (Concise Statistical Yearbook of Poland 2018). Concise Statistical Yearbook of Poland =...

Last Update: 2021-03-09T10:16:56Z Word Count : 126

View Rich Text Page View Plain Text Page

New Poland

Ffilm ddogfen gan y cyfarwyddwr Grzegorz Braun yw New Poland a gyhoeddwyd yn 2010. Fe'i cynhyrchwyd yng Ngwlad Pwyl. Sgwennwyd y sgript yn wreiddiol yn...

Last Update: 2024-03-13T12:25:05Z Word Count : 124

View Rich Text Page View Plain Text Page

Haunted Poland

i olau dydd yn gymharol ddiweddar gan y cyfarwyddwr Pau Masó yw Haunted Poland a gyhoeddwyd yn 2011. Fe'i cynhyrchwyd yng Ngwlad Pwyl. Lleolwyd y stori...

Last Update: 2024-03-12T13:57:31Z Word Count : 165

View Rich Text Page View Plain Text Page

The 100 Year March: a Philosopher in Poland

gan y cyfarwyddwr Stefan Molyneux yw The 100 Year March: a Philosopher in Poland a gyhoeddwyd yn 2018. Fe'i cynhyrchwyd yng Nghanada. Fel y nodwyd, cyhoeddwyd...

Last Update: 2024-03-12T21:22:48Z Word Count : 94

View Rich Text Page View Plain Text Page

Main result

Gwlad Pwyl

Gweriniaeth yng nghanolbarth Ewrop yw Gweriniaeth Gwlad Pwyl neu Gwlad Pwyl. Mae'n ffinio ar Yr Almaen yn y gorllewin, Gweriniaeth Tsiec a Slofacia yn y de, Yr Wcráin a Belarws yn y dwyrain, a Lithwania a Rhanbarth Kaliningrad, sy'n rhan o Rwsia, yn y gogledd. Mae Gwlad Pwyl ar lan y Môr Baltig. Warszawa (Warsaw) yw'r brifddinas. Mae Gwlad Pwyl yn Yr Undeb Ewropeaidd ac yn aelod o NATO. Mae Gwlad Pwyl yn ymestyn o'r traethau ar hyd y Môr Baltig yn y gogledd i fynyddoedd Sudetes a Carpatiau yn y de. Mae Lithwania a Rwsia (Oblast Kaliningrad) yn ffinio â'r wlad i'r gogledd-ddwyrain, Belarus a'r Wcráin i'r dwyrain, Slofacia a'r Weriniaeth Tsiec i'r de, a'r Almaen i'r gorllewin. Mae hanes gweithgaredd dynol ar bridd Gwlad Pwyl yn rhychwantu miloedd o flynyddoedd. Trwy gydol y cyfnod hynafol hwyr roedd ynddi wahanol ddiwylliannau a llwythau yn ymgartrefu ar wastadedd helaeth Canol Ewrop . Fodd bynnag, y Polaniaid Gorllewinol oedd yn dominyddu'r rhanbarth ac a roddodd eu henw i Wlad Pwyl. Gellir olrhain sefydlu gwladwriaeth Gwlad Pwyl i 966, pan gofleidiodd rheolwr paganaidd teyrnas Gristnogol a'i throsi'n wlad Babyddol. Sefydlwyd Teyrnas Gwlad Pwyl yn 1025 ac ym 1569 cadarnhaodd ei chysylltiad gwleidyddol hirsefydlog â Lithwania trwy arwyddo Undeb Lublin. Ffurfiodd yr undeb hwn y Gymanwlad Bwylaidd–Lithwanaidd, un o'r mwyaf o ran maint a phoblogaeth drwy Ewrop yr 16eg a'r 17g gyda system wleidyddol ryddfrydol unigryw ac a fabwysiadodd gyfansoddiad modern cyntaf Ewrop, sef Cyfansoddiad 3 Mai 1791. Ar ddiwedd y 18g rhannwyd y wlad gan wladwriaethau cyfagos ond adenillodd ei hannibyniaeth ym 1918 gyda Chytundeb Versailles. Ar ôl cyfres o wrthdaro tiriogaethol, fe adferodd y wlad ei safle fel chwaraewr allweddol yng ngwleidyddiaeth Ewrop. Ym Medi 1939, cychwynnodd yr Ail Ryfel Byd gyda goresgyniad Gwlad Pwyl gan yr Almaen, ac yna'r Sofietiaid yn goresgyn Gwlad Pwyl yn unol â Chytundeb Molotov-Ribbentrop. Bu farw oddeutu chwe miliwn o ddinasyddion Gwlad Pwyl, gan gynnwys tair miliwn o Iddewon y wlad, yn ystod y rhyfel. Fel aelod o'r Bloc Dwyreiniol, cyhoeddodd Gweriniaeth Pobl Gwlad Pwyl ar unwaith fod yn un o brif lofnodwyr Cytundeb Warsaw yng nghanol tensiynau byd-eang y Rhyfel Oer. Yn sgil digwyddiadau 1989, yn benodol trwy ymddangosiad a chyfraniadau’r mudiad undebol Solidarność, diddymwyd y llywodraeth gomiwnyddol ac ailsefydlodd Gwlad Pwyl ei hun fel gweriniaeth ddemocrataidd. Mae Gwlad Pwyl yn farchnad ddatblygedig, ac yn bŵer canol. Mae ganddi'r chweched economi fwyaf yn yr Undeb Ewropeaidd yn ôl CMC enwol a'r bumed fwyaf yn ôl CMC (PPP). Mae ei safonau byw, diogelwch a rhyddid economaidd yn uchel iawn, yn ogystal ag addysg brifysgol am ddim a system gofal iechyd cyffredinol effeithiol. Mae gan y wlad 17 o Safleoedd Treftadaeth y Byd UNESCO 15 ohonynt yn ddiwylliannol. Mae Gwlad Pwyl yn aelod-wladwriaeth yn Ardal Schengen, ac o'r Undeb Ewropeaidd, yr Ardal Economaidd Ewropeaidd, y Cenhedloedd Unedig, NATO, yr OECD, y Menter Tri Môr a Grŵp Visegrád.


© MMXXIII Rich X Search. We shall prevail. All rights reserved. Rich X Search