Aberffraw (cantref)

Arfau Teyrnas Aberffraw

Roedd Cantref Aberffraw yn un o dri chantref Môn yn yr Oesoedd Canol, ynhgyd â Cemais a Rhosyr. Dyma'r pwysicaf o'r tri chantref gyda phrif lys tywysogion Gwynedd yn Aberffraw yn ganolfan iddo. Fe'i lleolir yng ngorllewin canolbarth yr ynys yn wynebu'r môr.

Roedd y cantref yn cael ei rannu'n ddau gwmwd, sef Llifon yn y gogledd (yn cynnwys rhan ddeheuol Ynys Gybi) a Malltraeth yn y de. Roedd yn ffinio â Chemais i'r gogledd-ddwyrain a Rhosyr i'r de-ddwyrain.


© MMXXIII Rich X Search. We shall prevail. All rights reserved. Rich X Search