Afiechyd meddwl

Afiechyd meddwl
Enghraifft o'r canlynoldosbarth o glefyd Edit this on Wikidata
Mathclefyd Edit this on Wikidata
Y gwrthwynebiechyd meddwl Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Rhestr Afiechydon
Pigiad
Pwyswch ar dangos i weld y rhestr.
Y blwch hwn: gweld  sgwrs  golygu

Mae afiechyd meddyliol neu salwch meddyliol yn batrwm ymddygiadol neu seicolegol a welir mewn unigolyn sydd yn achosi ing neu anabledd na ystyrir yn rhan o ddatblygiad neu ddiwylliant normal. Mae adnabyddiaeth a dealltwriaeth o anhwylderau meddyliol wedi newid dros amser a thros ddiwylliannau gwahanol. Amrywia'r diffiniadau, asesiadau a dosbarthiadau o anhwylderau meddyliol, ond ceir rhestr o feini prawf a restrir yn yr ICD, DSM a chyfeirlyfrau eraill a dderbynir gan bobl proffesiynol ym maes iechyd meddyliol. Mae'r categorïau hyn yn cynnwys anhwylderau tymer, anhwylderau pryder, anhwylderau seicotig, anhwylderau bwyta, anhwylderau datblygiadol, anhwylderau personoliaeth a chategorïau eraill. Mewn nifer o achosion, nid oes un achos pendant neu barhaus dros anhwylderau meddyliol. Gall nodweddion o'r fath fod yn barhaus, yn ysbeidiol, neu gallant ddigwydd am gyfnodau ynysig, unigol. Disgrifiwyd llawer o anhwylderau, gydag arwyddion a symptomau sy'n amrywio'n fawr rhwng anhwylderau ac anhwylder.[1][2] Gall gweithiwr iechyd meddwl proffesiynol, fel arfer seicolegydd clinigol neu seiciatrydd, ddeiagnosio anhwylderau o'r fath.[3]

Mae anhwylderau meddyliol yn gyffredin, gyda thraean o bobl yn y mwyafrif o wledydd yn ateb gofynion digon o'r meini prawf yn ystod rhyw gyfnod o'u bywydau. Lleolir gwasanaethau ar gyfer anhwylderau meddyliol mewn ysbytai neu yn y gymuned. Caiff anhwylderau meddyliol eu deiagnosio gan ddefnyddio methodoleg gwahanol, gan ddibynnu yn aml ar hanes y claf a chyfweliad. Dau opsiwn ar gyfer triniaeth yw moddion seicotherapi a seiciatrig, yn ogystal â hunan-gymorth a chefnogaeth ymyrrol. Gellir gorfodi triniaeth yn dibynnu ar ddeddfwriaeth gwlad. Gwelir nifer o ymgyrchoedd er mwyn newid safon gwasanaethau ac agweddau pobl at anhwylderau meddyliol.

Mae achos salwch meddwl yn aml yn aneglur ac mae'r damcaniaethau'n ymgorffori canfyddiadau o ystod o feysydd amrywiol. Caiff anhwylder meddwl fel arfer ei ddiffinio gan gyfuniad o sut mae person yn ymddwyn, yn teimlo, yn canfod, neu'n meddwl.[4] Gall hyn fod yn gysylltiedig â rhanbarthau neu swyddogaethau penodol yr ymennydd, yn aml mewn cyd-destun cymdeithasol. Gellir dweud bod salwch meddwl yn un agwedd o iechyd meddwl. Dylid ystyried credoau diwylliannol a chrefyddol, yn ogystal â normau cymdeithasol, wrth wneud diagnosis.[5]

Lleolir llawer o'r gwasanaethau mewn ysbytai seiciatrig neu yn y gymuned, a chynhelir asesiadau gan weithwyr iechyd meddwl proffesiynol megis seiciatryddion, seicolegwyr, nyrsys seiciatrig a gweithwyr cymdeithasol clinigol, gan ddefnyddio dulliau amrywiol megis profion seicometrig ond yn aml yn dibynnu ar arsylwi a chwestiynu'r claf. Darperir triniaethau gan amryw o weithwyr iechyd meddwl proffesiynol. Mae seicotherapi a meddyginiaeth seiciatrig yn ddau opsiwn ac mae triniaethau eraill yn cynnwys newidiadau i ffordd o fyw, ymyriadau cymdeithasol, cymorth gan gymheiriaid, a hunangymorth. Mewn lleiafrif o achosion, efallai y bydd carchar neu driniaeth anwirfoddol yn dilyn y diagnosis. Dangoswyd bod rhaglenni atal (ee ymarrfer corff) yn lleihau iselder.[4][6]

Yn 2019, roedd y prif anhwylderau meddwl ledled y byd yn cynnwys iselder, a effeithiodd ar tua 264 miliwn, anhwylder deubegwn, a effeithiodd ar tua 45 miliwn, dementia, a effeithiodd ar tua 50 miliwn, a sgitsoffrenia a seicosisau eraill, a effeithiodd ar tua 20 miliwn o bobl.[7] Mae anhwylderau niwroddatblygiadol yn cynnwys anabledd deallusol ac anhwylderau sbectrwm awtistiaeth sydd fel arfer yn codi yn ystod babandod neu blentyndod.[8][7] Gall stigma a gwahaniaethu ychwanegu at y dioddefaint a'r anabledd sy'n gysylltiedig ag anhwylderau meddwl, gan arwain at symudiadau cymdeithasol amrywiol yn ceisio cynyddu dealltwriaeth o'r salwch a cheisio cynnwys y claf mewn digwyddiadau cymdeithasol.

Yn 2022, yn dilyn dwy flynedd o'r Gofid Mawr, credir yn gyffredinol fod clo mawr a rhannol yn ynysyu pobl ac yn dwysau salwch meddwl.

  1. "Mental disorders". World Health Organization. 9 April 2018. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 18 May 2015. Cyrchwyd 2 February 2019.
  2. "Mental disorders". World Health Organization. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 29 March 2016. Cyrchwyd 9 April 2016.
  3. Bolton, Derek (2008). What is Mental Disorder?: An Essay in Philosophy, Science, and Values. OUP Oxford. t. 6. ISBN 978-0-19-856592-5.
  4. 4.0 4.1 "Mental disorders". World Health Organization. October 2014. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 18 May 2015. Cyrchwyd 13 May 2015.
  5. American Psychiatric Association (2013). Diagnostic and Statistical Manual of Mental Disorders (arg. 5th). Arlington, VA: American Psychiatric Publishing. tt. 101–05. ISBN 978-0-89042-555-8.
  6. "Nutritional Psychiatry: Where to Next?". EBioMedicine 17 (17): 24–29. March 2017. doi:10.1016/j.ebiom.2017.02.020. PMC 5360575. PMID 28242200. http://www.pubmedcentral.nih.gov/articlerender.fcgi?tool=pmcentrez&artid=5360575.
  7. 7.0 7.1 "Mental Disorders". World Health Organization. World Health Organization. Cyrchwyd 20 July 2020.
  8. Diagnostic and statistical manual of mental disorders : DSM-5 (arg. 5th). Arlington, VA: American Psychiatric Association. 2013. t. 31. ISBN 9780890425541.

© MMXXIII Rich X Search. We shall prevail. All rights reserved. Rich X Search