Afon Ganga

Afon Ganga
Mathafon Edit this on Wikidata
Enwyd ar ôlGanga Edit this on Wikidata
LL-Q9610 (ben)-Titodutta-গঙ্গা নদী.wav, LL-Q1571 (mar)-सुबोध कुलकर्णी-गंगा नदी.wav Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
GwladBaner India India
Uwch y môr9 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau22.0833°N 90.8333°E, 30.1451°N 78.5974°E Edit this on Wikidata
TarddiadGangotri Glacier Edit this on Wikidata
AberBae Bengal Edit this on Wikidata
LlednentyddAfon Varuna, Afon Tamsa, Ramganga, Afon Gomti, Afon Ghaghara, Gandak, Afon Kosi, Afon Mahananda, Afon Yamuna, Afon Son, Afon Bhagirathi, Afon Gandaki, Afon Padma, Afon Alaknanda, Afon Karmanasa, Sarayu, Afon Yarlung Tsangpo, Afon Burhi Gandak, Afon Punpun, Rāmgangā River Edit this on Wikidata
Dalgylch1,060,000 cilometr sgwâr Edit this on Wikidata
Hyd2,525 cilometr Edit this on Wikidata
Arllwysiad12,000 metr ciwbic yr eiliad Edit this on Wikidata
Map

Mae Afon Ganga[1] (hefyd Ganges) yn afon fawr yng ngogledd India. Mae'n tarddu, dan yr enw Afon Bhagirathi, o rewlif Gangotri ym mynyddoedd yr Himalaya, ac yn uno ag Afon Alaknanda gerllaw Deoprayag i ffurfio'r Ganga. Mae'r afon 2,525 km (1,569 milltir), felly, yn codi yng ngorllewin yr Himalaya yn nhalaith Indiaidd Uttarakhand, ac yn llifo i'r de a'r dwyrain trwy Wastadedd Gogledd India i Bangladesh, lle mae'n gwagio i Fae Bengal. Hi yw'r drydedd afon fwyaf ar y Ddaear o ran arllwysiad.[2]

Cyn cyrraedd y môr mae'n ymwahanu i nifer o afonydd llai, yn cynnwys Afon Hoogli ger Calcutta ac Afon Padma, sy'n llifo trwy Bangladesh. Mae'r gair Ganga yn golygu "afon" yn yr iaith Hindi.

Ystyrir y Ganga yn afon sanctaidd mewn Hindwaeth, a chaiff ei chynyrchioli gan y dduwies Maa Ganga (mam Ganga).[3] Ceir nifer o leoedd sanctaidd ar lannau'r afon, yn cynnwys Varanasi a Haridwar. Dywedir fod ymdrochi unwaith yn yr afon yn dileu un pechod. Wedi llosgi corff marw, mae rhoi'r lludw yn y Ganga yn fodd i osgoi cylch ad-eni.[4]

O gwmpas glannau'r afon, ceir tir ffrwythlon sy'n gallu cynnal poblogaeth fawr. Yn 2005), amcangyfrifid fod 8% o boblogaeth y byd yn byw yn nalgylch y Ganga. Mae'r Ganga'n gartref i oddeutu 140 o rywogaethau o bysgod a 90 o rywogaethau o amffibiaid ac yn cynnwys rhywogaethau sydd mewn perygl difrifol fel y dolial a dolffin afon De Asia.[5]

Yn y blynyddoedd diwethaf mae llygredd yn yr afon wedi datblygu'n broblem enfawr, yn rhannol oherwydd fod cymaint o lwch dynol, a chyrff heb eu llosgi, yn cael eu rhoi yn yr afon. Mae lefelau bacteria colifform fecal, sy'n dod o wastraff dynol, yn yr afon ger Varanasi fwy na chan gwaith y lefel derbyniol, swyddogol y wlad.[5] Ystyrir Cynllun Gweithredu'r Ganga, sef menter amgylcheddol i lanhau'r afon, yn cael ei ystyried yn fethiant a briodolir ddiffyg ewyllys yn y llywodraeth, arbenigedd technegol gwael, diffyg cynllunio amgylcheddol a diffyg cefnogaeth gan yr awdurdodau crefyddol brodorol.[6]

  1. Jones, Gareth (gol.). Yr Atlas Cymraeg Newydd (Collins-Longman, 1999), t. 97.
  2. Society, National Geographic (2019-10-01). "Ganges River Basin". National Geographic Society (yn Saesneg). Cyrchwyd 2020-05-18.
  3. Alter, Stephen (2001), Sacred Waters: A Pilgrimage Up the Ganges River to the Source of Hindu Culture, Houghton Mifflin Harcourt Trade & Reference Publishers, ISBN 978-0-15-100585-7, https://books.google.com/books?id=qb9yQgAACAAJ, adalwyd 30 Gorffennaf 2013
  4. "US TV host takes dig at Ganges". Zeenews.com. 16 December 2009. Cyrchwyd 4 Gorffennaf 2012.
  5. 5.0 5.1 Rice, Earle (2012), The Ganges River, Mitchell Lane Publishers, Incorporated, p. 25, ISBN 978-1612283685, https://books.google.com/books?id=vdeXBgAAQBAJ&pg=PA25
  6. "Clean Up Or Perish", The Times of India, 19 Mawrth 2010

© MMXXIII Rich X Search. We shall prevail. All rights reserved. Rich X Search