Algeria

Algeria
Arwyddairبالشّعب وللشّعب Edit this on Wikidata
Mathgwladwriaeth sofran, un o wledydd môr y canoldir, gweriniaeth y bobl, gwlad Edit this on Wikidata
PrifddinasAlger Edit this on Wikidata
Poblogaeth43,900,000 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 5 Gorffennaf 1962 Edit this on Wikidata
AnthemKassaman Edit this on Wikidata
Pennaeth llywodraethAymen Benabderrahmane Edit this on Wikidata
Cylchfa amserUTC+01:00 Edit this on Wikidata
Iaith/Ieithoedd
  swyddogol
Arabeg, Berber Algeriaidd Safonol Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolGogledd Affrica, Y Byd Mwslemaidd, Y Byd Arabaidd Edit this on Wikidata
GwladBaner Algeria Algeria
Arwynebedd2,381,741 km² Edit this on Wikidata
GerllawY Môr Canoldir Edit this on Wikidata
Yn ffinio gydaMoroco, Libia, Niger, Mali, Tiwnisia, Mawritania, Gorllewin Sahara, yr Eidal, Sbaen Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau28°N 1°E Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
Corff gweithredolGovernment of Algeria Edit this on Wikidata
Corff deddfwriaetholSenedd Algeria Edit this on Wikidata
Swydd pennaeth
  y wladwriaeth
Arlywydd Algeria Edit this on Wikidata
Pennaeth y wladwriaethAbdelmadjid Tebboune Edit this on Wikidata
Swydd pennaeth
  y Llywodraeth
Prif Weinidog Algeria Edit this on Wikidata
Pennaeth y LlywodraethAymen Benabderrahmane Edit this on Wikidata
Map
Ariannol
Cyfanswm CMC (GDP)$163,472 million, $191,913 million Edit this on Wikidata
ArianDinar Algeriaidd Edit this on Wikidata
Canran y diwaith10 ±1 canran Edit this on Wikidata
Cyfartaledd plant2.857 Edit this on Wikidata
Mynegai Datblygiad Dynol0.745 Edit this on Wikidata

Gwlad yng ngogledd Affrica yw Gweriniaeth Ddemocrataidd Pobl Algeria neu Algeria. Mae hi ar arfordir y Môr Canoldir a'r gwledydd cyfagos yw Tiwnisia i'r gogledd-ddwyrain, Libia i'r dwyrain, Niger i'r de-ddwyrain, Mali a Mawritania i'r de-orllewin a Moroco i'r gorllewin. Mae rhan helaeth o'r wlad yn gorwedd yn anialwch y Sahara. Mae bron y cyfan o'i phoblogaeth o 44 miliwn yn y gogledd eithaf, ar hyd yr arfordir ac ym mryniau'r Anti-Atlas, rhan o gadwyn Mynyddoedd yr Atlas. Alger yw'r brifddinas ac mae arwynebedd yn wlad yn 2,381,741 km sg (919,595 mill sg). Algeria, felly, yw'r wlad fwyaf o ran arwynebedd yn Affrica, y byd Arabaidd, ac ym masn y Môr Canoldir.

Cyn 1962 gwelodd Algeria lawer o ymerodraethau yn ceisio ei meddiannu, gan gynnwys y Numidiaid, y Ffeniciaid, Carthaginiaid, Rhufeiniaid, Fandaliaid, Byzantines, Umayyadiaid, Abbasidiaid, Rustamidiaid, Almohads, Zayyanids, Sbaenwyr, Ottomaniaid ac yn olaf, Ffrainc. Mae mwyafrif llethol poblogaeth Algeria yn Arabaiaid-Berber, yn ymarfer Islam, ac yn defnyddio ieithoedd swyddogol Arabeg a Berber. Fodd bynnag, oherwydd hanes trefedigaethol Ffrainc a'u hymyraeth yn y wlad hon, mae'r Ffrangeg yn gwasanaethu fel iaith weinyddol ac addysg mewn rhai cyd-destunau, ac Arabeg Algeria yw'r brif iaith lafar.

Mae Algeria yn weriniaeth lled-arlywyddol, gydag etholaethau lleol o 58 talaith a 1,541 comiwn. Mae Algeria yn bwer rhanbarthol (regional power) yng Ngogledd Affrica, ac yn bŵer canol mewn materion byd-eang. Mae ganddi'r Mynegai Datblygiad Dynol uchaf o'r holl wledydd yn Affrica nad ydynt yn ynysoedd ac mae ganddi un o'r economïau mwyaf ar gyfandir Affrica, wedi'i seilio'n bennaf ar allforion ynni. Mae ganddi hefyd gronfeydd olew 16ed mwya'r byd a'r nawfed gronfa fwyaf o nwy naturiol. Sonatrach, y cwmni olew cenedlaethol, yw'r cwmni mwyaf yn Affrica, ac mae'n cyflenwi llawer iawn o nwy naturiol i Ewrop. Mae byddin Algeria yn un o'r mwyaf yn Affrica, ac mae gan y wlad y gyllideb amddiffyn fwyaf ar y cyfandir. Mae'n aelod o'r Undeb Affricanaidd, y Gynghrair Arabaidd, OPEC, y Cenhedloedd Unedig, ac Undeb Arabaidd Maghreb.


© MMXXIII Rich X Search. We shall prevail. All rights reserved. Rich X Search