![]() | |
![]() | |
Arwyddair | Heldhaftig, Vastberaden, Barmhartig ![]() |
---|---|
Math | dinas, man gyda statws tref, dinas fawr, dinas â phorthladd, llefydd gyda phoblogaeth dynol yn yr Iseldiroedd, cycling city, y ddinas fwyaf, national capital ![]() |
Enwyd ar ôl | Afon Amstel ![]() |
Poblogaeth | 921,468 ![]() |
Sefydlwyd | |
Pennaeth llywodraeth | Femke Halsema ![]() |
Cylchfa amser | UTC+01:00, CET, UTC+2 ![]() |
Gefeilldref/i | |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Amstelland ![]() |
Sir | Amsterdam ![]() |
Gwlad | ![]() |
Arwynebedd | 219 km² ![]() |
Uwch y môr | −2 metr ![]() |
Gerllaw | Afon Amstel, IJ, IJmeer ![]() |
Cyfesurynnau | 52.37°N 4.88°E ![]() |
Cod post | 1000–1098, 1100–1109 ![]() |
Swydd pennaeth y Llywodraeth | Maer Amsterdam ![]() |
Pennaeth y Llywodraeth | Femke Halsema ![]() |
![]() | |
Prifddinas a dinas fwyaf yr Iseldiroedd yw Amsterdam ( ynganiad ). Saif ar lan Afon Amstel yn nhalaith (provincie) Noord-Holland. Roedd poblogaeth Amsterdam, yn y cyfrifiad diwethaf, oddeutu 921,468 (Ionawr 2023)[1]. Mae'r ardal fetropolitanaidd tua'r 6ed mwyaf yn Ewrop, gyda phoblogaeth o tua 2.5 miliwn. Cyfeirir at Amsterdam fel "Fenis y Gogledd", a briodolir gan y nifer fawr o gamlesi a gofrestwryd fel Safle Treftadaeth y Byd gan UNESCO.[2][3]
Er mai prifddinas "brenhinol" yr Iseldiroedd yw Amsterdam, nid hi fu canolfan y llywodraeth erioed. Lleolir canolfan y llywodraeth, y senedd a thrigfan y frenhines i gyd yn ninas Den Haag. Nid yw Amsterdam yn brifddinas o'i thalaith ei hun ychwaith: prifddinas Gogledd Holland yw Haarlem.
Daw enw'r ddinas o argae Amstelle (yn Saesneg: Amstel Dam) sy'n esbonio tarddiad y ddinas; argae ar afon Amstel lle mae Sgwâr Dam wedi'i lleoli heddiw.[4][5] Sefydlwyd pentref bychan yno yn ystod y 12g a ddatblygodd yn un o borthladdoedd pwysicaf y byd yn ystod yr Oes Aur Iseldireg, o ganlyniad i'w datblygiad masnachol arloesol. Yn ystod y cyfnod hwnnw, ystyriwyd y ddinas yn ganolfan flaenllaw ar gyfer masnach a deiamwntiau. Ehangodd y ddinas yn ystod y 19eg a'r 20g, wrth i gymdogaethau maesdrefi newydd gael eu sefydlu. Daliodd y teulu Van Amstel, a gofnodir mewn dogfennau o'r enw hwn er 1019, stiwardiaeth yr ardal am ganrifoedd. Yn ddiweddarach, gwasanaethodd y teulu hefyd o dan iarll yr Iseldiroedd.
Amsterdam yw canolbwynt ariannol a diwylliannol yr Iseldiroedd. Lleolir nifer o sefydliadau Iseldireg mawrion yno ac mae 7 o 500 o gwmnïau mwyaf y byd wedi'u sefydlu yn y ddinas e Philips, AkzoNobel, Booking.com, TomTom, ac ING.[6]. Lleolir Cyfnewidfa Stoc Amsterdam, sy'n rhan o Euronext, yng nghanol y ddinas. Daw 4.2 miliwn o dwristiaid bob blwyddyn i weld atyniadau'r ddinas, sy'n cynnwys ei chamlesi hanesyddol, y Rijksmuseum, Amgueddfa Van Gogh, Tŷ Anne Frank, yr ardal golau coch a'r siopau coffi canabis.
© MMXXIII Rich X Search. We shall prevail. All rights reserved. Rich X Search