![]() | |
![]() | |
Enghraifft o: | mobile operating system, platfform cyfrifiadurol ![]() |
---|---|
Math | system weithredu ![]() |
Iaith | ieithoedd lluosog ![]() |
Dechrau/Sefydlu | 23 Medi 2008 ![]() |
Statws hawlfraint | dan hawlfraint ![]() |
Sylfaenydd | Rich Miner, Andy Rubin, Google, Open Handset Alliance ![]() |
Gwefan | https://www.android.com/ ![]() |
![]() |
System weithredu ar sail Linux, ar gyfer ffonau symudol megis ffonau clyfar a thabledi yw Android. Datblygwyd gan yr Open Handset Alliance, o dan arweinyddiaeth Google, a chwmnïau eraill.[1]
Prynwyd datblygwr cyntaf y dechnoleg, Android Inc., gan Google yn 2005.[2] Datganwyd dosbarthiad Android yn 2007, pan sefydlwyd yr Open Handset Alliance, consortiwm o 86 cwmni caledwedd, meddalwedd, a thelegyfathrebu a oedd yn cysegru eu hunain at ddatblygu safonau agored ar gyfer dyfeisiau symudol.[3] Mae Google yn rhyddhau'r cod Android fel cod agored, o dan y Drwydded Apache.[4] Yr Android Open Source Project (AOSP) sy'n gyfrifol am gynnal a chadw Android, a'i datblygu ymhellach.[5]
© MMXXIII Rich X Search. We shall prevail. All rights reserved. Rich X Search