Gwlad | Yr Alban [1] | |
Cartref | Llundain | |
Dyddiad Geni | 15 Mai 1987 | |
Lleoliad Geni | Glasgow,[2] Yr Alban | |
Taldra | 1.90 m | |
Pwysau | 84 kg | |
Aeth yn broffesiynol | 2005 | |
Ffurf chwarae | Dde; Gwrthlaw ddeulaw | |
Arian Gwobr Gyrfa | $UD 7,962,968 | |
Senglau | ||
Record Gyrfa: | 200-72 | |
Teitlau Gyrfa: | 12 | |
Safle uchaf: | 3 (11 Mai 2009) | |
Canlyniadau'r Gamp Lawn | ||
Agored Awstralia | 4ydd Rownd (2007, 2009) | |
Agored Ffrainc | cyn-cynderfynol (2009) | |
Wimbledon | cynderfynol (2009) | |
Agored yr UD | terfynol (2008) | |
Parau | ||
Record Gyrfa: | 23-36 | |
Teitlau Gyrfa: | 0 | |
Safle uchaf: | 89 (2 Ebrill 2007) | |
Gwybodlen wedi'i diweddaru diwethaf ar: 9 Gorffennaf 2009. |
Chwaraewr tenis Albanaidd[3] sy'n cynrychioli'r Alban[1] a Phrydain Fawr[4] yw Andrew "Andy" Murray (ganwyd 15 Mai 1987 yng Nglasgow). Mae'n enwog am ei echwythiadau angerddol aml a'i dalent naturiol.
Mae'n 190 cm o daldra, ac mae'n defnyddio trawiad gwrthlaw deulaw eithriadol. Ei hyfforddwr cyfredol yw Brad Gilbert. Mae Murray hefyd yn ffrindiau da efo'i gyd-chwaraewr tenis Novak Đoković.
Enillodd y fedal aur yn nhwrnamaint senglau dynion yng Ngemau Olympaidd yr Haf 2012 ac yng Ngemau Olympaidd 2016 yn Rio de Janeiro, Brasil. Enillodd ef Bencampwriaeth yr Unol Daleithiau yn 2012.
Cafodd ei enwebu'n chwaraewr y flwyddyn yng ngwobrau'r Lawn Tennis Association yn 2005.[5] Yn 2015 Murray oedd chwaraewr dethol gorau'r DU ac roedd yn ail orau drwy'r byd. Yn Rhagfyr 2005 enillodd Wobr Personoliaeth Chwaraeon Albanaidd y Flwyddyn BBC Scotland, ac adran chwaraeon y gwobrau Top Scot. Ystyriwyd ei frawd hŷn Jamie yn chwaraewr parau dethol gorau'r DU yn 2015. Roedd Murray gyda'i frawd Jamie'n aelodau o'r tîm a enillodd y Cwpan Davis yn 2015.
Ychydig cyn Refferendwm annibyniaeth i'r Alban, 2014 cynhoeddodd ei fod am bleidleisio o blaid annibyniaeth.[6]
© MMXXIII Rich X Search. We shall prevail. All rights reserved. Rich X Search