Apartheid

Apartheid
Adnoddau Dysgu
Rhestr o adnoddau dysgu ar gyfer y pwnc yma
CBAC
Newidiadau yn Ne Affrica,1948 -1994
Adolygwyd testun yr erthygl hon gan arbenigwyr pwnc ac mae'n addas i'w ddefnyddio mewn addysg

System yn Ne Affrica o gadw pobl o wahanol hil ar wahân oedd Apartheid (Afrikaans, yn golygu "arwahanrwydd"). Gweithredwyd y system rhwng 1948 a 1994. Dechreuwyd datblygu'r system pan gafodd De Affrica statws dominiwn hunanlywodraethol o fewn yr Ymerodraeth Brydeinig, a daeth i'w llawn dwf wedi 1948. Nodweddwyd system Apartheid gan ddiwylliant gwleidyddol a oedd yn seiliedig ar baasskap (neu ‘goruchafiaeth gwyn’) oedd yn sicrhau bod De Affrica yn cael ei rheoli'n wleidyddol, yn gymdeithasol ac yn economaidd gan boblogaeth leiafrifol wyn y wlad.[1] Yn ôl y system hon o ddosbarthu haenau cymdeithasol, y dinasyddion gwyn oedd â’r statws uchaf, wedyn pobl Asiaidd a phobl o gefndiroedd ethnig eraill, a'r Affricaniaid du yn isaf. Cyn y 1940au, roedd rhai agweddau ar apartheid wedi dechrau ymddangos ar ffurf rheolaeth leiafrifol gan Dde Affricaniaid gwyn, pan wahanwyd Affricaniaid du oddi wrth hiliau eraill mewn cyd-destunau cymdeithasol, ac yn nes ymlaen estynnwyd hyn i ddeddfau’n cael eu pasio a thir yn cael ei ddosbarthu.[2][3] Mabwysiadwyd Apartheid yn swyddogol gan Lywodraeth De Affrica wedi i’r Blaid Genedlaethol (y National Party) ddod i rym yn Etholiadau Cyffredinol 1948.[4]

Roedd system o ddosbarthu hiliol wedi dechrau cael ei ffurfio yn Ne Affrica gan Ymerodraeth yr Iseldiroedd yn ystod y 18g.[5] Erbyn diwedd y 19eg ganrif, gyda thwf cyflym a diwydianeiddio ‘British Cape Colony’, sef trefedigaeth Brydeinig yn Ne Affrica, dechreuodd polisïau a chyfreithiau hiliol ddod yn fwy llym. Roeddent yn gwahaniaethu’n benodol yn erbyn Affricaniaid du.[6] Roedd polisïau gweriniaethau’r Boer yn gwahaniaethu’n hiliol hefyd - er enghraifft, roedd cyfansoddiad gweriniaeth Transvaal yn gwahardd Affricaniaid du a phobl â lliw croen tywyll rhag ymwneud ag eglwys na gwladwriaeth.[7]

Y ddeddf apartheid gyntaf i gael ei phasio oedd Deddf Gwahardd Priodasau Cymysg yn 1949 ac yna Deddf Anfoesoldeb yn 1950, a oedd yn ei gwneud hi’n anghyfreithlon i ddinasyddion De Affrica briodi neu gael perthynas rywiol oedd yn croesi ffiniau hil. Roedd Deddf Cofrestru’r Boblogaeth 1950 yn categoreiddio pawb yn Ne Affrica mewn un o dri grŵp, sef gwyn, cymysg eu hil a brodorion/du[8] ac roedd llefydd byw pobl yn cael eu penderfynu ar sail dosbarthiad hil.[9] Rhwng 1960 a 1983, symudwyd 3.5 miliwn o Affricaniaid du o’u cartrefi a’u gorfodi i fyw mewn ardaloedd ar wahân o ganlyniad i ddeddfwriaeth apartheid. Hon oedd un o brosesau dadfeddiant mwyaf hanes modern.[10] Bwriad y dadfeddiannu hwn oedd cyfyngu poblogaeth pobl ddu i ddeg ardal benodedig a ddisgrifiwyd fel ‘mamwlad lwythol’, neu bantustans, gyda phedwar ohonynt yn datblygu’n wladwriaethau annibynnol.[11] Cyhoeddodd y Llywodraeth y byddai unrhyw un oedd yn cael ei adleoli yn colli eu dinasyddiaeth yn Ne Affrica gan y byddent yn cael eu hamlyncu gan y bantustans.[12]

Enynnodd Apartheid wrthwynebiad sylweddol yn rhyngwladol ac oddi mewn i'r wlad ei hun.[13] Condemniwyd Apartheid gan y Cenhedloedd Unedig a rhoddwyd embargo arfau a masnach sylweddol ar Dde Affrica yn ogystal â boicotiau ym maes chwaraeon.[14] Yn ystod y 1970au a’r 1980au roedd y gwrthwynebiad mewnol i Apartheid y tu mewn i Dde Affrica wedi troi’n fwyfwy milwriaethus, ac achosodd hyn i ymateb Llywodraeth y Blaid Genedlaethol fod yn ffyrnig o dreisgar. Achoswyd trais sectaraidd ar raddfa eang, gyda miloedd yn marw neu’n cael eu carcharu.[15] Gwnaed rhai diwygiadau i’r system apartheid ond methodd y mesurau hyn gwrdd â gofynion y grwpiau ymgyrchu.[13]

Rhwng 1987 a 1993 dechreuodd y Blaid Genedlaethol drafodaethau gyda’r African National Congress (ANC), y prif fudiad gwrth-apartheid, er mwyn trafod rhoi diwedd ar arwahanu a chyflwyno llywodraeth fwyafrifol.[16][17]

Yn 1990 rhyddhawyd unigolion blaenllaw o'r ANC, fel Nelson Mandela, o’r carchar. Dechreuwyd felly cael gwared ar y system mewn cyfres o drafodaethau rhwng 1990 a 1993, gan ddiweddu ag Etholiad Cyffredinol 1994, y cyntaf i'w gynnal yn Ne Affrica lle'r oedd cyfle i bawb bleidleisio.[18]

  1. Mayne, Alan J. (Alan James), 1927- (1999). From politics past to politics future : an integrated analysis of current and emergent paradigms. Westport, Conn.: Praeger. ISBN 0-275-96151-6. OCLC 39732997.CS1 maint: multiple names: authors list (link)
  2. Cock, Jacklyn; Nathan, Laurie (1989). War and Society: The Militarisation of South Africa (yn Saesneg). New Africa Books. ISBN 978-0-86486-115-3.
  3. Breckenridge, Keith,. Biometric state : the global politics of identification and surveillance in South Africa, 1850 to the present. New York. tt. 70–74. ISBN 978-1-107-07784-3. OCLC 881387739.CS1 maint: extra punctuation (link) CS1 maint: multiple names: authors list (link)
  4. Ottaway, Marina. (1993). South Africa : the struggle for a new order. Washington, D.C.: Brookings Institution. tt. 23–26. ISBN 0-8157-6716-1. OCLC 27266917.
  5. Glaser, Daryl. (2001). Politics and society in South Africa : a critical introduction. London: Sage Publications. tt. 9–12. ISBN 978-1-4462-6427-0. OCLC 607789605.
  6. Bickford-Smith, Vivian. (1995). Ethnic pride and racial prejudice in Victorian Cape Town : group identity and social practice, 1875-1902. Cambridge: Cambridge University Press. tt. 190–2. ISBN 0-521-47203-2. OCLC 30354949.
  7. Dyzenhaus, David. (1991). Hard cases in wicked legal systems : South African law in the perspective of legal philosophy. Oxford: Clarendon Press. tt. 35–36. ISBN 978-0-19-825292-4. OCLC 22381755.
  8. "Newidiadau yn Ne Africa - 1948 -1994" (PDF). CBAC. Cyrchwyd 23 Medi 2020.
  9. The Routledge companion to race and ethnicity. Caliendo, Stephen M., 1971-, McIlwain, Charlton D., 1971-. London: Routledge. 2011. ISBN 978-0-203-83686-6. OCLC 701718175.CS1 maint: others (link)
  10. "South Africa. Overcoming Apartheid, Building Democracy". Overcomingapartheid.msu.edu. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2013-12-14. Cyrchwyd 23 Medi 2020.
  11. The Routledge companion to race and ethnicity. Caliendo, Stephen M., 1971-, McIlwain, Charlton D., 1971-. London: Routledge. 2011. tt. 103–5. ISBN 978-0-203-83686-6. OCLC 701718175.CS1 maint: others (link)
  12. Crompton, Samuel Etinde (2007). Desmond Tutu : fighting apartheid. Internet Archive. New York : Chelsea House Publishers. ISBN 978-0-7910-9221-7.
  13. 13.0 13.1 Lodge, Tom (2011). Sharpeville : an apartheid massacre and its consequences. Internet Archive. Oxford ; New York : Oxford University Press. ISBN 978-0-19-280185-2.
  14. Lodge, Tom (1983). Black Politics in South Africa Since 1945. New York: Longman.
  15. Pandey, Satish Chandra. (2006). International terrorism and the contemporary world (arg. 1st ed). New Delhi: Sarup & Sons. tt. 197–199. ISBN 81-7625-638-2. OCLC 225502634.CS1 maint: extra text (link)
  16. Thomas, Scott (Scott M.) (1996). The diplomacy of liberation : the foreign relations of the African National Congress since 1960. London: Tauris Academic Studies. tt. 202–210. ISBN 1-85043-993-1. OCLC 34053250.
  17. "1990: De Klerk dismantles apartheid in South Africa" (yn Saesneg). 1990-02-02. Cyrchwyd 2020-09-23.
  18. Mitchell, Thomas G., 1957- (2000). Native vs. settler : ethnic conflict in Israel/Palestine, Northern Ireland, and South Africa. Westport, Conn.: Greenwood Press. t. 8. ISBN 0-313-00139-1. OCLC 50321353.CS1 maint: multiple names: authors list (link)

© MMXXIII Rich X Search. We shall prevail. All rights reserved. Rich X Search