Ares

Cerflun o Ares o Fila Hadrian.

Duw rhyfel ym mytholeg Roeg oedd Ares (Hen Roeg: Ἄρης). Roedd yn un o'r Deuddeg Olympiad ac yn fab i Zeus a Hera.[1] Mewn gwirionedd roedd yn dduw ffyrnigrwydd a chreulondeb rhyfel, tra'r oedd ei hanner chwaer, Athena, yn dduwies strategaeth mewn rhyfel. Mae'n cyfateb i'r duw Mawrth yn y traddodiad Rhufeinig.

Ei gymdeithion mewn rhyfel oedd Deimos, "dychryn", a Phobos "ofn", yn ôl un chwedl ei feibion oeddynt, yn deillio o'i garwriaeth ag Aphrodite. Roedd Eris, duwies anghydfod, yn chwaer iddo. Yn ôl un chwedl, roedd ganddo fab, Cycnus (Κύκνος), a geisiodd adeiladu teml a phenglogau ac esgyrn teithwyr yr oedd wedi eu lladd.

  1. Hesiod, Theogony 921 (Loeb Classical Library numbering); Iliad, 5.890–896.

© MMXXIII Rich X Search. We shall prevail. All rights reserved. Rich X Search