Asterid

Asteridau
Llygad-llo mawr (Leucanthemum vulgare)
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Plantae
Ddim wedi'i restru: Angiosbermau
Ddim wedi'i restru: Ewdicotau
Ddim wedi'i restru: Asteridau
Urddau

Gweler y rhestr

Grŵp mawr o blanhigion blodeuol yw'r asteridau (Saesneg: asterids). Fel rheol, mae eu petalau'n ffurfio tiwb ac mae gan eu blodau nifer fach o frigerau. Mae llawer o asteridau'n cynnwys iridoidau (dosbarth o gemegion gyda blas chwerw) fel amddiffyniad yn erbyn llysysyddion. Gall asteridau fod o bwysigrwydd economaidd fel planhigion yr ardd, chwyn, llysiau rhinweddol neu gnydau (e.e. letys, tomatos, tatws, coffi).


© MMXXIII Rich X Search. We shall prevail. All rights reserved. Rich X Search