![]() | |
![]() | |
Arwyddair | Hoc signo tuetur pius. Hoc signo vincitur inimicus. ![]() |
---|---|
Math | cymunedau ymreolaethol Sbaen ![]() |
Enwyd ar ôl | Tywysogaeth Asturias ![]() |
Prifddinas | Oviedo ![]() |
Poblogaeth | 1,008,028 ![]() |
Anthem | Asturias, patria querida ![]() |
Pennaeth llywodraeth | Adrián Barbón ![]() |
Cylchfa amser | UTC+01:00, UTC+2 ![]() |
Iaith/Ieithoedd swyddogol | Sbaeneg ![]() |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Green Spain ![]() |
Gwlad | ![]() |
Arwynebedd | 10,603.57 km² ![]() |
Gerllaw | Môr Cantabria ![]() |
Yn ffinio gyda | Galisia, Castilla y León, Cantabria ![]() |
Cyfesurynnau | 43.3614°N 5.8478°W ![]() |
ES-AS ![]() | |
Gwleidyddiaeth | |
Corff gweithredol | Government of the Principality of Asturias ![]() |
Corff deddfwriaethol | General Junta of the Principality of Asturias ![]() |
Swydd pennaeth y Llywodraeth | President of the Principality of Asturias ![]() |
Pennaeth y Llywodraeth | Adrián Barbón ![]() |
![]() | |
Un o gymunedau ymreolaethol Sbaen yw Tywysogaeth Asturias (Astwrieg Principáu d'Asturies neu Asturies, Sbaeneg Principado de Asturias). Daw'r enw o dylwyth yr Astures, brodorion yr ardal yn ystod Oes yr Haearn, enw a fabwysiadwyd gan y Rhufeiniaid ar gyfer holl drigolion gogledd-orllewin y penrhyn Iberaidd.
O dan y drefn Sbaenaidd, mae Asturias hefyd yn dalaith gyda'i ffiniau'n cydredeg â ffiniau'r gymuned. I'r gogledd mae Bae Vizcaya, i'r de León, i'r dwyrain Cantábria ac i'r gorllewin, Galicia. Mae iddi arwynebedd o ychydig dros 10,600 km² - a'i hyd oddeutu 330 km o'r dwyrain i'r gorllewin, a dim ond 130 km o'r de i'r gogledd. Mae'n ardal fynyddig ac arfordirol; carreg galch yw creigiau'r dwyrain a'r canolbarth, gyda llechi yn y gorllewin.
© MMXXIII Rich X Search. We shall prevail. All rights reserved. Rich X Search