Awstralia

Awstralia
Mathgwladwriaeth sofran, talaith ffederal, gwlad Edit this on Wikidata
Enwyd ar ôlTerra Australis Edit this on Wikidata
PrifddinasCanberra Edit this on Wikidata
Poblogaeth26,473,055 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd3 Mawrth 1986 (annibyniaeth oddi wrth Prydain)
(deddf Awstralaidd)
AnthemAdvance Australia Fair Edit this on Wikidata
Pennaeth llywodraethAnthony Albanese Edit this on Wikidata
Cylchfa amserUTC+10:00 Edit this on Wikidata
Iaith/Ieithoedd
  swyddogol
Saesneg Awstralia, Auslan Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolMIKTA, Australia and New Zealand, Awstralasia, y Gymanwlad Edit this on Wikidata
Arwynebedd7,692,024 km² Edit this on Wikidata
GerllawCefnfor India, De'r Cefnfor Tawel, Geneufor Mawr Awstralia, Culfor Bass, Môr Tasman, Môr Cwrel, Môr Arafura, Môr Timor Edit this on Wikidata
Yn ffinio gydaIndonesia, Seland Newydd, Papua Gini Newydd, Dwyrain Timor, Ynysoedd Solomon, Caledonia Newydd, Fanwatw Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau25°S 133°E Edit this on Wikidata
Hyd3,860 cilometr Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
Corff gweithredolLlywodraeth Awstralia Edit this on Wikidata
Corff deddfwriaetholSenedd Awstralia Edit this on Wikidata
Swydd pennaeth
  y wladwriaeth
teyrn Awstralia Edit this on Wikidata
Pennaeth y wladwriaethSiarl III Edit this on Wikidata
Swydd pennaeth
  y Llywodraeth
Prif Weinidog Awstralia Edit this on Wikidata
Pennaeth y LlywodraethAnthony Albanese Edit this on Wikidata
Map
Ariannol
Cyfanswm CMC (GDP)$1,675,419 million Edit this on Wikidata
CMC y pen$54,348 Edit this on Wikidata
ArianAustralian dollar Edit this on Wikidata
Canran y diwaith6 ±1 canran Edit this on Wikidata
Cyfartaledd plant1.74 Edit this on Wikidata
Mynegai Datblygiad Dynol0.951 Edit this on Wikidata

Cymanwlad Awstralia neu Awstralia yw'r wlad chweched fwyaf yn y byd yn ddaearyddol a'r unig un sydd yn gyfandir cyfan. Mae'n cynnwys ynys Tasmania, sy'n un o daleithiau'r wlad. Y gwledydd cyfagos yw Seland Newydd, sydd i'r de-ddwyrain o Awstralia, ac Indonesia, Papua Gini Newydd a Dwyrain Timor i'r gogledd. Mae arwynebedd y wlad oddeutu 7,692,024 km².[1] Canberra yw prifddinas y genedl, ond y ddinas fwyaf yw Sydney, ac ymhlith yr ardaloedd metropolitan mawr eraill mae Melbourne, Brisbane, Perth, Adelaide ac Newcastle.

Tarddiad yr enw "Awstralia" yw'r ymadrodd Lladin terra australis incognita ("Y tir deheuol na ŵyr neb amdano"). Mae'r ehangdir yn gorwedd rhwng Y Cefnfor Tawel i'r dwyrain a Chefnfor India i'r gorllewin. Trawsnewidiwyd y wlad gan fudo dynol; roedd Awstralia yn gartref i'r bobl brodorol, sef aboriginal, am filoedd o flynyddoedd ond ers diwedd y 18g, gwelwyd ton ar ôl ton o bobl yn ymfudo yma o orllewin Ewrop. Roedd y mwyafrif o'r mudwyr hyn yn dod o wledydd Prydain ac am flynyddoedd roedd y wlad dan reolaeth Brydeinig. Yn fwy diweddar, mae poblogaeth y wlad (dros 26 miliwn[2]) wedi cynyddu efo mudwyr o wledydd Asia megis Japan, De Corea, ac Indonesia yn ymdefydlu ar arfordir dwyreiniol y wlad[3]. Mae Awstralia wedi creu cysylltiadau masnachol cryf gyda gwledydd y Cefnfor Tawel. Yn y 21g, gwelwyd ailgyfeirio economi'r wlad gan fasnachu yn fwy gydag Asia a'r Unol Daleithiau yn hytrach na gyda'i phartneriaid traddodiadol, sef gwledydd y Gymanwlad ac Ewrop.

Bu Awstraliaid brodorol yn byw ar y cyfandir am oddeutu 65,000 o flynyddoedd, cyn i fforwyr o'r Iseldiroedd gyrraedd yn gynnar yn yr 17g, a'i enwi'n New Holland. Ym 1770, hawliwyd hanner dwyreiniol Awstralia gan 'Brydain Fawr' (hy Lloegr) a ddefnyddiodd y wlad i gartrefu pobl a ddedfrydwyd mewn llysoedd, drwy eu halltudio yma, yn enwedig i De Cymru Newydd gyda'r llong gyntaf yn cyrraedd ar 26 Ionawr 1788, dyddiad a ddaeth yn ddiwrnod cenedlaethol Awstralia. Tyfodd y boblogaeth yn gyson yn y degawdau dilynol, ac erbyn rhuthr aur o'r 1850au, roedd ymsefydlwyr Ewropeaidd wedi archwilio'r rhan fwyaf o'r cyfandir a sefydlwyd pum trefedigaeth y goron hunan-lywodraethol ychwanegol. Alltudiwyd rhyw 1,800 o bobl o Gymru erbyn 1852, rhyw 300 yn ferched. Yn eu plith roedd arweinwyr y Siartwyr, John Frost, Zephaniah Williams a William Jones, a Lewsyn yr Heliwr y bu ganddo ran yn "nherfysgoedd" Merthyr.

Ar 1 Ionawr 1901, ffederalodd y chwe thref, gan ffurfio Cymanwlad Awstralia. Ers hynny mae Awstralia wedi cynnal system wleidyddol ddemocrataidd ryddfrydol sefydlog sy'n gweithredu fel brenhiniaeth gyfansoddiadol seneddol ffederal, sy'n cynnwys chwe gwladwriaeth a deg tiriogaeth.

Awstralia yw'r wlad hynaf, mwyaf gwastad, a'r sychaf, lle mae pobl yn byw ynddo, gyda'r priddoedd lleiaf ffrwythlon. O ran natur (ei bioamrywiaeth), mae'n wlad llawn amrywiaeth, ac mae yma amrywiaeth eang o dirweddau a hinsoddau hefyd, gydag anialwch yn y canol, coedwigoedd glaw trofannol yn y gogledd-ddwyrain, a mynyddoedd yn y de-ddwyrain. Cynhyrcha ei hincwm o amrywiol ffynonellau, gan gynnwys allforion o fwyngloddio, telathrebu, bancio, gweithgynhyrchu ac addysg.

  1. "Australia's Size Compared". Geoscience Australia. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 24 Mawrth 2007. Cyrchwyd 19 Mai 2007.
  2. Gwall cyfeirio: Tag <ref> annilys; ni roddwyd testun ar gyfer 'ref' o'r enw popclock
  3. "Geographic Distribution of the Population". 24 Mai 2012. Cyrchwyd 1 Rhagfyr 2012.

© MMXXIII Rich X Search. We shall prevail. All rights reserved. Rich X Search