Math | cymuned |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Castell-nedd Port Talbot |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 51.6083°N 3.8417°W |
Cod SYG | W04000601 |
Bae ar arfordir de Cymru ac enw cymuned ym mwrdeisdref sirol Castell-Nedd Port Talbot, Cymru, yw Bae Baglan (Saesneg: Baglan Bay). Mae'n ardal ddiwydiannol, ac nid oes unrhyw boblogaeth barhaol o fewn y gymuned.
Datblygodd diwydiant yn yr ardal yn y 19g, pan allforid glo, tunplat a chrochenwaith yma. Yn 1963, agorodd cwmni olew BP waith petrcemegol yma, ac erbyn 1968 roedd BP Bae Baglan yn un o safleoedd petrocemegol mwyaf Ewrop, yn cyflogi 2500 o weithwyr yn 1974. Caewyd y gwaith yn raddol rhwng 1994 a 2004.
Wedi i'r safle gau yn derfynol yn 2004, datblygwyd y safle gan BP, Awdurdod Datblygu Cymru a'r cyngor sir fel Parc Ynni Baglan, yn cynnwys gorsaf ynni Bae Baglan.
© MMXXIII Rich X Search. We shall prevail. All rights reserved. Rich X Search