Beirdd y Tywysogion


Arferid cyfeirio at y beirdd llys a ganai yn Oes y Tywysogion fel y Gogynfeirdd, ond erbyn heddiw defnyddir y term Beirdd y Tywysogion. Mae'r term Gogynfeirdd yn cynnwys rhai o'r beirdd a flodeuai ar ddechrau'r 14g ac a ganai yn null traddodiadol Beirdd y Tywysogion; ond serch hynny maen nhw'n perthyn i gyfnod Beirdd yr Uchelwyr pan gollasid nawdd y llysoedd brenhinol mawr.

Fe'u gelwir yn Feirdd y Tywysogion am eu bod, bron yn ddieithriad, yn feirdd uchel eu parch a statws a ganai i dywysogion Cymru yn ystod y cyfnod rhwng dyfodiad y Normaniaid i'r wlad a chwymp Llywelyn ap Gruffudd a'i frawd Dafydd yn ei frwydr dros annibyniaeth Cymru yn erbyn coron Lloegr.

Y cynharaf o'r beirdd hyn oedd Meilyr Brydydd, bardd llys Gruffudd ap Cynan. Ymhlith y beirdd mwyaf yn eu mysg yw Cynddelw Brydydd Mawr, Llywarch ap Llywelyn, Dafydd Benfras, Bleddyn Fardd a Gruffudd ab Yr Ynad Coch a ganodd farwnad rymus i Lywelyn Ein Llyw Olaf. Eithriad i'r drefn oedd Hywel ab Owain Gwynedd, a oedd yn fardd ac yn dywysog ac felly'n rhydd i ddilyn ei drwydded ei hun, a Madog ap Gwallter a oedd yn frawd crefyddol.

Nodweddir gwaith y beirdd hyn oll gan ei fydryddiaeth gymhleth, ei gystrawen arbennig a'i eirfa hynafol.


© MMXXIII Rich X Search. We shall prevail. All rights reserved. Rich X Search