Bricsen

Bricsen
Mathdefnydd adeiladu, Brick Edit this on Wikidata
Deunyddclay, loam, clinker brick Edit this on Wikidata
Gwneuthurwrgwneuthurwr brics Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Bricsen unigol
Wal gyfan o frics (Flemish bond) o faint a lliw amrywiol.
Hen wal fric ar batrwm English bond.

Deunydd adeiladu yw'r fricsen (ll. 'brics' neu 'briciau') a ddefnyddir i wneud waliau, palmentydd ac elfennau eraill mewn gwaith adeiladu carreg. Yn draddodiadol, cyfeiria'r term "bricsen" at uned sy'n cynnwys clai, ond fe'i defnyddir bellach i ddynodi unrhyw unedau petryal wedi'u gosod mewn morter. Gall brics gynnwys pridd, tywod a chalch, neu ddeunyddiau concrit. Gellir grwpio briciau i nifer o ddosbarthiadau gan gynnwys: mathau, deunyddiau a meintiau sy'n amrywio yn ôl ardaloedd a chyfnod, ac fe'u cynhyrchir mewn symiau mawr. Mae dau gategori sylfaenol o friciau: rhai wedi'u tanio (neu grasu) a brics sydd heb eu tanio.

Ceir deunydd o siap tebyg (petryal) a elwir yn 'floc' (ll. 'blociau') hefyd, ac mae'r rhain, fel arfer, wedi'u gwneud o goncrid, ond sydd o faint ychydig mwy na'r fricsen. Ceir hefyd frics a blocs ysgafn a wneir o glai a cherrig mân.

Mae brics wedi'u tanio yn un o'r deunyddiau adeiladu sy'n para hiraf heb weld llawer o ddirywiad ynddynt. Cyfeirir atynt weithiau fel "cerrig artiffisial", ac fe'u defnyddiwyd ers oddeutu 4000 CC. Crewyd brics wedi'u sychu yn yr awyr agored, a elwir hefyd yn "friciau mwd", sawl canrif cyn y brics wedi'u tanio. Yn aml, ychwanegwyd gwellt yn y clai er mwyn ei gryfhau.

Gosodir briciau mewn "cyrsiau" a cheir nifer o batrymau a elwir yn "fondiau", a elwir ar lafar gwlad yn "waith brics". Gall y morter sy'n eu cadw at ei gilydd amrywio'n fawr.


© MMXXIII Rich X Search. We shall prevail. All rights reserved. Rich X Search