Bulla Regia

Bulla Regia
MathCarthaginian archaeological site Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirJendouba Edit this on Wikidata
GwladBaner Tiwnisia Tiwnisia
Cyfesurynnau36.558893°N 8.757016°E Edit this on Wikidata
Map

Mae Bulla Regia yn ddinas Rufeinig yng ngogledd-orllewin Tiwnisia. Fe'i lleolir yn nhalaith Jendouba tua 5 milltir i'r gogledd o ddinas Jendouba, wrth droed bryniau'r Kroumirie.

Ceir nifer o gromlechi cynhanesyddol yn y bryniau i'r dwyrain o'r safle, sy'n dyst i fodolaeth cymunedau brodorol Berber yn yr ardal ymhell cyn i'r Rhufeiniaid gyrraedd. Daeth Bulla Regia ei hun i'r amlwg tua'r 5 CC pan sefydlwyd tref Bulla yno gan y Carthagwyr fel rhan o'r broses o sefydlu awdurdod ar ddyffryn Medjerda a'i ddatblygu fel ardal amaethyddol a gyfrannai'n sylweddol yn ddiweddarach at y cyflenwad o wenith i ddinas Rhufain.

Golygfa yn Bulla Regia
Mosaic o Amphitrite ar lawr fila dan ddaear yn Bulla Regia

Ychwanegwyd y teitl Regia i enw'r dref pan ddaeth yn brifddinas i un o'r teyrnasoedd Numidiaidd lleol a flodeuai yn yr ardal am gyfnod dan y Rhufeiniaid ar ôl cwymp Carthago. Dan yr Ymerodraeth Rufeinig bu Bulla Regia yn un o'r dinasoedd mwyaf llewyrchus yn nhalaith Rufeinig Affrica, er na fu erioed yn arbennig o fawr. Cyrhaeddodd ei huchafbwynt yn y ail a'r 3g OC pan godwyd y rhan fwyaf o'r adeiladau sydd i'w gweld ar y safle heddiw. Ar ôl i'r Rhufeiniaid ymadael bu dan reolaeth y Bysantiaid am gyfnod a chodwyd caer a basilica (eglwys) ganddynt yno. Rhoddwyd heibio i'r safle ar ôl i'r Arabiaid gwncweru Tiwnisia yn y 7g.

Mae'r safle yn hynod am fod rhai o gyfoethogion y ddinas wedi adeiladu villas dan ddaear yno i osgoi'r gwres yn yr haf. Addurnwyd rhai o'r tai hyn yn goeth gyda lluniau mosaic sydd ymhlith y gorau yn y wlad. Creuwyd cyrtiau agored dan ddaear gyda agoriadau i adael y golau i mewn a phyllau o ddŵr a gerddi bychain o'u cwmpas.

Mae adeiladau nodiadwy eraill yn cynnwys baddondai mawr Memmia, a enwir ar ôl gwraig Septimius Severus, theatr fach lle y credir i Sant Awstin o Hippo bregethu unwaith, temlau i'r dduwies Isis a'r duw Apollo, a forum Rhufeinig sydd mewn cyflwr da.

Ceir amgueddfa fechan gyda chasgliad bychan o fosaics a cherfluniau wrth y fynedfa i'r safle, sy'n hawdd i'w gyrraedd o Jendouba. Bulla Regia yw enw'r pentref bychan ar bwys y safle archaeolegol hefyd.


© MMXXIII Rich X Search. We shall prevail. All rights reserved. Rich X Search