Bwlgareg

Bwlgareg (български език bǎlgarski ezik)
Siaredir yn: Bwlgaria
Parth: De-ddwyrain Ewrop
Cyfanswm o siaradwyr: 9.1 miliwn (Ethnologue)
Safle yn ôl nifer siaradwyr: {{{safle}}}
Achrestr ieithyddol: Ieithoedd Indo-Ewropeaidd

 Balto-Slafeg
  Slafeg
   Deheuol

Statws swyddogol
Iaith swyddogol yn: Bwlgaria
Rheolir gan: Institiwt yr Iaith Fwlgareg, Academi Gwyddorau Bwlgaria (Институт за български език)
Codau iaith
ISO 639-1 bg
ISO 639-2 bul
ISO 639-3 bul
Gweler hefyd: IaithRhestr ieithoedd

Iaith Slafeg Ddeheuol yw Bwlgareg. Heddiw iaith swyddogol Bwlgaria yw hi, ac, yn ôl cyfrifiad Bwlgaria 2001, mae 6,697,158 o bobl yn siarad Bwlgareg fel mamiaith ym Mwlgaria (84.5% o'r boblogaeth). Ceir lleiafrifoedd Bwlgareg eu hiaith yn Wcrain, Gwlad Groeg, Twrci ac yn gyffredinol dros wledydd y Balcanau. Mae cyfanswm o 8–9 miliwn o bobl yn ei siarad. Ysgrifennir Bwlgareg â'r wyddor Gyrilig. Mae cyfnodion yr iaith yn dyddio i'r 9g, pan gynhyrchiwyd nifer o lawysgrifau ym Mwlgaria yn Hen Slafoneg Eglwysig, iaith lenyddol gyntaf y Slafiaid, wedi'i seilio ar dafodieithoedd Slafeg Macedonia a Bwlgaria. Parhaodd traddodiad llenyddol llewyrchus yn yr iaith yn y cyfnod Bwlgareg Canol (12g – 15g), ond dirywiodd ei statws yn ystod rheolaeth yr Otomaniaid. Crëwyd iaith safonol newydd yn y 14g fel rhan o ddiwygiad cenedlaethol Bwlgaria. Mae'r iaith gyfoes yn wahanol iawn i Hen Slafoneg Eglwysig. Mae wedi colli'r system gymhleth o gyflyrau enwol oedd gan yr iaith honno, ac wedi profi nifer o gyfnewidiadau fel rhan o ardal ieithyddol y Balcanau sydd wedi dod â hi'n nes yn ei strwythur at ieithoedd o grwpiau eraill megis Groeg, Albaneg, Rwmaneg a Thyrceg.


© MMXXIII Rich X Search. We shall prevail. All rights reserved. Rich X Search