Bwrdeistref Fetropolitan Stockport

Bwrdeistref Fetropolitan Stockport
Mathbwrdeistref fetropolitan, ardal ddi-blwyf Edit this on Wikidata
Ardal weinyddolManceinion Fwyaf
PrifddinasStockport Edit this on Wikidata
Poblogaeth294,197 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 1 Ebrill 1974 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirManceinion Fwyaf
(Sir seremonïol)
GwladBaner Lloegr Lloegr
Arwynebedd126.0402 km² Edit this on Wikidata
Uwch y môr78 metr Edit this on Wikidata
Yn ffinio gydaDinas Manceinion, Bwrdeistref Fetropolitan Tameside, Dwyrain Swydd Gaer, Bwrdeistref High Peak, Mottram St Andrew, Lyme Handley, Disley (civil parish) Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau53.4°N 2.17°W Edit this on Wikidata
Cod SYGE08000007, E43000161 Edit this on Wikidata
GB-SKP Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
Corff gweithredolgweithrediaeth Cyngor Bwrdeistref Fetropolitan Stockport Edit this on Wikidata
Corff deddfwriaetholcyngor Cyngor Bwrdeistref Fetropolitan Stockport Edit this on Wikidata
Swydd pennaeth
  y Llywodraeth
leader of Stockport Metropolitan Borough Council Edit this on Wikidata
Map

Bwrdeistref fetropolitan ym Manceinion Fwyaf, Gogledd-orllewin Lloegr, yw Bwrdeistref Fetropolitan Stockport (Saesneg: Metropolitan Borough of Stockport).

Mae gan y fwrdeistref arwynebedd o 126 km², gyda 293,423 o boblogaeth yn ôl amcangyfrif cyfrifiad 2019.[1] Mae'n ffinio ar Ddinas Manceinion i'r gorllewin, Bwrdeistref Fetropolitan Tameside i'r gogledd, Swydd Derby i'r dwyrain, a Swydd Gaer i'r de.

Bwrdeistref Fetropolitan Stockport ym Manceinion Fwyaf

Ffurfiwyd y fwrdeistref dan Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, ar 1 Ebrill 1974. Yn wreiddiol daeth o dan reolaeth cyngor sir fetropolitan Manceinion Fwyaf, ond ym 1986, fel yr holl fwrdeistrefi metropolitan eraill yn Lloegr, daeth yn awdurdod unedol i bob pwrpas.

Mae'r fwrdeistref yn hollol ddi-blwyf. Mae ei phencadlys yn nhref Stockport ei hun. Mae aneddiadau eraill ynddi'n cynnwys trefi Bramhall, Bredbury a Cheadle.

  1. City Population; adalwyd 22 Awst 2020

© MMXXIII Rich X Search. We shall prevail. All rights reserved. Rich X Search