COVID-19

COVID-19
Enghraifft o'r canlynolclefyd heintus newydd, niwmonia annodweddiadol, dosbarth o glefyd Edit this on Wikidata
Mathniwmonia annodweddiadol, haint coronafirws, niwmonia firal, milhaint, Virus diseases of plants, niwmonia, clefyd Edit this on Wikidata
SymptomauPeswch, y dwymyn, methiant anadlu, cur pen, myalgia, blinder meddwl, hemoptysis, dolur rhydd, diffyg anadl, lymphopenia, anaemia, anosmia, ageusia, hypoxia, oerni, gorlenwi'r trwyn, anorecsia, cyfog, llid y cyfbilen, poen yn yr abdomen, niwmonia firal, niwed ir ymennydd, deliriwm, anhwylder seicotig, enseffalitis, enanthem, anallu edit this on wikidata
AchosSars-cov-2 edit this on wikidata
Dull trosglwyddoTrosglwyddiad drwy'r aer, heintiad defnynnol, trosglwyddiad drwy gyffyrddiad, trosglwyddiad uniongyrchol, trosglwyddiad drwy chwydu, haint yn y llygad edit this on wikidata
Dyddiad darganfodRhagfyr 2019 Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Erthygl am yr haint a achoswyd gan SARS-CoV-2 yw hon.
Am y firws penodol a achosodd yr epidemig, gweler SARS-CoV-2.
Am y grŵp o erthyglau mae'r firws yn perthyn iddo, gweler: Coronafirysau
Am y pandemig cyfoes, gweler yr erthygl Pandemig COVID-19.

Sylw!
Nid yw Wicipedia yn darparu cyngor meddygol nac iechyd. Gall yr erthygl hon gynnwys gwybodaeth hen ffasiwn neu anghywir. Dim ond gweithiwr iechyd proffesiynol sy'n gallu rhoi cyngor meddygol i chi, a dim ond awdurdodau iechyd eich gwlad sy'n gymwys i roi cyfarwyddiadau iechyd cyhoeddus yn ymwneud â phandemig y Gofid Mawr.

Clefyd heintus a ddaeth i'r amlwg yn Rhagfyr 2019 yw COVID-19 sy'n fyr am "coronavirus disease 2019"; bathiad Cymraeg - y Gofid Mawr[1]. Gellir olrhain yr achos cyntaf nôl i 17 Tachwedd 2019 yn Hubei.[2] Y firws sydd wrth wraidd yr haint yw'r SARS-CoV-2, ac wrth i'r clefyd yma ymledu drwy'r byd, esgorodd ar bandemig coronafeirws 2019–20. Erbyn 30 Mehefin 2020 roedd dros 1,500 wedi marw yng Nghymru, dros 43,500 drwy wledydd Prydain a thros 505,000 yn fyd-eang.[3][4].

Canllaw ar wefannau trenau; 27 Mawrth 2020.

Canfuwyd y clefyd yn gyntaf yn 2019 yn Wuhan, Tsieina, ac ers hynny mae wedi lledaenu’n fyd-eang, gan arwain at bandemig.

Mae symptomau cyffredin yn cynnwys twymyn (gorboethi, peswch ac anhawster anadlu, gyda phoen yn y cyhyrau, fflem ac fel arfer, dolur gwddf. Er bod mwyafrif yr achosion yn arwain at symptomau ysgafn, mewn rhai achosion ceir niwmonia difrifol ac organau'r corff yn methu.[5][6][7][8]

Mae cyfradd y marwolaethau allan o'r holl achosion a ddiagnosiwyd ar gyfartaledd yn 3.4%. Ceir cryn amrywiaeth, gyda 0.2% yn y rhai iau nag 20 oed, i oddeutu 15% yn y rhai dros 80 oed.[9][10] Fel arfer, mae'r haint yn cael ei ledaenu o un person i'r llall trwy ddefnynnau heintus yn cael eu hanadlu, ee drwy besychu neu disian. Mae'r amser rhwng dod i gysylltiad â symptomau a'r symptomau yn ymddangos, yn gyffredinol, rhwng dau a 14 diwrnod, gyda phum diwrnod ar gyfartaledd.[11][12]

  1. trydariad gan Dilyw 25 Mawrth 2020
  2. Ma, Josephine (13 Mawrth 2020). "Coronavirus: China's first confirmed Covid-19 case traced back to Tachwedd 17". South China Morning Post (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 13 Mawrth 2020. Cyrchwyd 28 Mai 2020.
  3. [https://web.archive.org/web/20200407154353/https://coronaviruscymru.wales/graphs-%26-timeline Archifwyd 2020-04-07 yn y Peiriant Wayback. coronaviruscymru.wale; adalwyd 7 Ebrill 2020.
  4. www.who.int ; adalwyd 7 Ebrill 2020.
  5. "Q&A on coronaviruses (COVID-19)". Cyfundrefn Iechyd y Byd. Cyrchwyd 11 Mawrth 2020.
  6. Wang V (5 Mawrth 2020). "Most Coronavirus Cases Are Mild. That's Good and Bad News". The New York Times.
  7. "Q&A on coronaviruses". Cyfundrefn Iechyd y Byd. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 20 Ionawr 2020. Cyrchwyd 27 Ionawr 2020.
  8. "The continuing 2019-nCoV epidemic threat of novel coronaviruses to global health – The latest 2019 novel coronavirus outbreak in Wuhan, China". Int J Infect Dis 91: 264–66. Chwefror 2020. doi:10.1016/j.ijid.2020.01.009. PMID 31953166.
  9. "Wuhan Coronavirus Death Rate". www.worldometers.info. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 31 Ionawr 2020. Cyrchwyd 2 Chwefror 2020.
  10. "Report 4: Severity of 2019-novel coronavirus (nCoV)" (PDF). Archifwyd (PDF) o'r gwreiddiol ar 10 Chwefror 2020. Cyrchwyd 10 Chwefror 2020.
  11. "Q&A on coronaviruses". Cyfundrefn Iechyd y Byd. 11 Chwefror 2020. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 20 Ionawr 2020. Cyrchwyd 24 Chwefror 2020. The disease can spread from person to person through small droplets from the nose or mouth which are spread when a person with COVID-19 coughs or exhales ... The main way the disease spreads is through respiratory droplets expelled by someone who is coughing.
  12. "Symptoms of Novel Coronavirus (2019-nCoV)". Centers for Disease Control and Prevention. 10 Chwefror 2020. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 30 Ionawr 2020. Cyrchwyd 11 Chwefror 2020.

© MMXXIII Rich X Search. We shall prevail. All rights reserved. Rich X Search