Cadfarch

Erthygl am y sant yw hon. Am y gymuned ym Mhowys gweler Cadfarch (cymuned).
Cadfarch
GanwydGogledd Cymru Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethmynach Edit this on Wikidata
Blodeuodd6 g Edit this on Wikidata
Dydd gŵyl24 Hydref Edit this on Wikidata
TadCaradog Freichfras Edit this on Wikidata
MamTegau Eurfron Edit this on Wikidata

Sant Cymreig oedd Cadfarch (bl. 6g). Mae'n nawddsant Penegoes (Powys) ac Abererch (Gwynedd).[1] Ei ddydd gŵyl yw 24 Hydref.[2]

Yn ôl yr achau, mab Caradog Freichfras oedd Cadfarch. Roedd Sant Cawrdaf yn frawd iddo. Dywedir iddo sefydlu clasau neu eglwysi ym Mhenegoes - a adnabyddid fel Llangadfarch yn y gorffennol. Cysylltir ef gydag Abererch ond mae'r cyfeiriad cyntaf ato'n enwi 'Aberech', sef Berach, a gysylltir gydag Aberdaron yn Llŷn (Arch.Camb., 86 (1931), t.166 n.34), Capel y Ferach yw Capel Anelog (WATU).

Ceir Ffynnon Gadfarch ger eglwys Penegoes a oedd yn dda at wella'r crudcymalau.[1]

Mab iddo oedd sant Elgud. Ni wyddys dim amdano.

Roedd Cadfarch yn un o'r "Saith Gefnder", sef Beuno, Cybi, Seiriol, Deiniol, Cawrdaf, Dewi a Chadfarch ei hun, a aeth ar bererindod i Rufain i weddïo am law ar ôl tair blynedd o sychder eithriadol. Bu'r daith yn llwyddiannus a dywedir i'r dafn cyntaf o law syrthio ar lyfr Sant Cadfarch.[3]

  1. 1.0 1.1 T. D. Berverton, The Book of Welsh Saints (Cyhoeddiadau Glyndŵr, 2000), tud. 97.
  2. Seintiau Cymru; adalwyd 8 Ionawr 2017.
  3. Elissa R. Henken, The Welsh Saints.

© MMXXIII Rich X Search. We shall prevail. All rights reserved. Rich X Search