Caerdydd

Caerdydd
ArwyddairDeffro! Mae'n Ddydd! Edit this on Wikidata
Mathdinas fawr, y ddinas fwyaf, prifddinas, dinas Edit this on Wikidata
Enwyd ar ôlAfon Taf Edit this on Wikidata
Poblogaeth361,469 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 1081 Edit this on Wikidata
Cylchfa amserGMT Edit this on Wikidata
Gefeilldref/i
Stuttgart, Vigevano, Bari, Naoned, Xiamen, Luhansk, Pernik, Hordaland Edit this on Wikidata
Iaith/Ieithoedd
  swyddogol
Cymraeg, Saesneg Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirDinas a Sir Caerdydd Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Arwynebedd140.3 km² Edit this on Wikidata
Uwch y môr41 metr Edit this on Wikidata
GerllawAfon Taf, Môr Hafren, Afon Elái Edit this on Wikidata
Yn ffinio gydaLlantrisant Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau51.4817°N 3.1792°W Edit this on Wikidata
Cod postCF Edit this on Wikidata
AC/au
AS/au
Map

Prifddinas Cymru yw Caerdydd ("Cymorth – Sain" ynganiad ); Saesneg: Cardiff); hon yw dinas fwyaf Cymru a'r ddegfed fwyaf yn y Deyrnas Unedig. Daeth yn ddinas yn 1905 ac yn brifddinas Cymru yn 1955. Yma mae canolfan fasnachol fwyaf Cymru ac mae'r rhan fwyaf o sefydliadau cenedlaethol Cymru wedi eu lleoli yma hefyd. Mae poblogaeth Caerdydd oddeutu 361,469 (2016)[1] a'r ddinas gyfan (ardal 'Caerdydd Fwyaf' neu 'Ardal Drefol Caerdydd') sy'n cynnwys Penarth a Dinas Powys yn 447,487[2].

Ceir llawer o brifddinasoedd ledled y byd sy'n llai na Chaerdydd gan gynnwys prifddinasoedd: Bern, Y Swistir (134,506 (31 Rhagfyr 2022)[3]), Brwsel, Gwlad Belg (188,737 (1 Ionawr 2022)[4]) a Wellington, Seland Newydd (215,400 (30 Mehefin 2018)).

Roedd Caerdydd yn dref fechan tan ddechrau'r 19g. Tyfodd yn gyflym gyda dyfodiad y chwyldro diwydiannol ac yn enwedig pan gysylltwyd cymoedd De Cymru â rheilffyrdd fel y gellid allforio glo o borthladd Caerdydd. Yn 1851 roedd poblogaeth Caerdydd yn 20,000 ond erbyn 1911 roedd yn 182,000 ac erbyn 1991 roedd yn 269,000. Yn 1891 roedd Caerdydd yn allforio 708,000 o dunelli o lo: erbyn 1911 roedd yr allforion yn 10 miliwn tunnell.

Roedd porthladd Caerdydd yn cael ei adnabod fel "Tiger Bay", ac ar un adeg hon oedd un o borthladdoedd prysuraf y byd. Ar ôl cyfnod hir o ddirywiad, mae'r ardal wedi cael ei hadnewyddu fel Bae Caerdydd. Gobeithir y daw yn ardal boblogaidd ar gyfer y celfyddydau, bywyd nos ac adloniant. Daw'r twf aruthrol yma ar ôl adeiladu argae ar draws y bae, gan greu llyn enfawr. Roedd hyn yn ddadleuol iawn ar y pryd, ac yr oedd hefyd yn ofid fod y gymuned leol a oedd yn bodoli yn Tiger Bay yn cael ei chwalu. Ym Mae Caerdydd yr ymsefydlodd Cynulliad Cenedlaethol Cymru ac yno mae Canolfan y Mileniwm hefyd, sydd yn gartref i Urdd Gobaith Cymru ac Opera Cenedlaethol Cymru yn ogystal â Stadiwm y Mileniwm.

  1. https://statswales.gov.wales/Catalogue/Population-and-Migration/Population/Estimates/Local-Authority/populationestimates-by-localauthority-year.
  2. Cyfrifiad y Deyrnas Unedig 2011, Wikidata Q855531, https://www.ons.gov.uk/census/2011census
  3. https://www.pxweb.bfs.admin.ch/pxweb/en/px-x-0102020000_201/-/px-x-0102020000_201.px/table/tableViewLayout2/.
  4. "Bevolking per gemeente op 1 januari 2022".

© MMXXIII Rich X Search. We shall prevail. All rights reserved. Rich X Search