Camino de Santiago

Camino de Santiago
Mathpilgrims' way, llwybr troed pell Edit this on Wikidata
Enwyd ar ôlIago fab Sebedeus Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
GwladBaner Sbaen Sbaen
Cyfesurynnau42.880561°N 8.543889°W Edit this on Wikidata
Map
Statws treftadaethBien de Interés Cultural Edit this on Wikidata
Manylion

Y Camino de Santiago ("Ffordd Sant Iago") yw'r enw Sbaeneg am rwydwaith o lwybrau ar draws Sbaen, Ffrainc a gwledydd eraill yn Ewrop, yn arwain i ddinas Santiago de Compostela yn Galicia, lle cedwir gweddillion honedig yr apostol Iago fab Sebedeus.

O tua'r flwyddyn 814, gyda darganfyddiad gweddillion yr apostol yn Santiago, a chyda chefnogaeth Siarlymaen, tyfodd Santiago yn gyrchfan boblogaidd dros ben i bererinion ar draws Ewrop. O'r 11g ymlaen, Santiago de Compostela oedd y gyrchfan bwysicaf i bererinion ar ôl Jeriwsalem a Rhufain. Mae'n parhau'n boblogaidd iawn hyd heddiw, yn enwedig y rhan o'r camino francés, "ffordd y Ffrancwyr", sy'n arwain o Roncesvalles yn Navarra ar draws gogledd Sbaen i Santiago de Compostela.

Cyhoeddwyd y Camino yn Safle Treftadaeth y Byd gan UNESCO.

Y camino francés

© MMXXIII Rich X Search. We shall prevail. All rights reserved. Rich X Search