Math | castell, adfeilion castell, safle archaeolegol, cestyll y Tywysogion Cymreig |
---|---|
Sefydlwyd | |
Daearyddiaeth | |
Lleoliad | Dinbych |
Sir | Sir Ddinbych |
Gwlad | Cymru |
Uwch y môr | 142 metr |
Cyfesurynnau | 53.180546°N 3.420726°W |
Rheolir gan | Cadw |
Perchnogaeth | Cadw |
Statws treftadaeth | adeilad rhestredig Gradd I, heneb gofrestredig, Henebion Cenedlaethol Cymru |
Manylion | |
Dynodwr Cadw | DE156 |
Castell Dinbych yw un o'r cestyll a adeiladwyd gan Edward I, brenin Lloegr, yn ystod ei goncwest o Gymru. Mae'n sefyll ar bentir carregog uwchben tref fechan Dinbych, yn Sir Ddinbych.
Mae'n debyg fod y safle wedi cael ei ddefnyddio ers yr Oesodd Canol Cynnar, ac mae'n bosib y cafodd caer Gymreig ei hadeiladu ar y safle ac iddi gael ei defnyddio fel canolfan frenhinol yn fuan cyn adeiladu'r castell cerrig. Adeiladwyd y castell gerrig presennol gan Henry de Lacy, 3ydd Iarll Lincoln, a gafodd y tir gan Edward I yn fuan ar ôl iddo drechu Llywelyn ap Gruffudd, Tywysog Cymru yn 1282.
Roedd cynlluniau gwreiddiol y castell yn cynnwys rhychwant hir o furiau, fel llen, gyda thyrau hanner crwn yn ymestyn allan, a dau borth. Mae'r waliau gwreiddiol hyn erbyn heddiw yn goroesi fel waliau'r dref. Gwahanwyd y castell presennol o weddill yr ardal gaeedig gan set o waliau enfawr yn yr un arddull a Chastell Caernarfon; mae'r waliau hyn yn cynnwys porthdy unigryw â thri thŵr, hon yw un o nodweddion mwyaf trawiadol y castell. Er nad oes tystiolaeth, credir mai y pensaer oedd James o St George, pen saer maen Edward I.
Mae'r castell yng ngofal Cadw erbyn hyn.
© MMXXIII Rich X Search. We shall prevail. All rights reserved. Rich X Search