Cerddoleg

Cerddoleg
Enghraifft o'r canlynoldisgyblaeth academaidd, pwnc gradd, gradd academaidd Edit this on Wikidata
Mathmusic, Geisteswissenschaften, diwyllianneg Edit this on Wikidata
Rhan oQ113296040 Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Disgyblaeth academaidd sy'n ymwneud â cherddoriaeth yw cerddoleg.[1] Mae'n cwmpasu pob agwedd o gerddoriaeth, ac eithrio yr arfer o berfformio a chyfansoddi ei hun, hynny yw hyfforddiant cerddorol. Un o feysydd y dyniaethau yw cerddoleg. Mewn astudiaethau hanesyddol mae gwreiddiau'r maes, a datblygodd yn hwyrach i grybwyll dadansoddiad a damcaniaeth. Yn hanesyddol bu pwyslais ar gerddoriaeth Ewrop a cherddoriaeth glasurol yn enwedig,[2] ond bellach caiff pob genre, cyfnod, a diwylliant ei astudio gan y cerddolegydd. Rhennir cerddoleg yn is-feysydd: ffurf a nodiant, bywydau'r cyfansoddwyr a'r cerddorion, datblygiad offerynnau cerdd, damcaniaeth cerddoriaeth, ac estheteg, acwsteg, a ffisioleg.[3]

  1. Geiriadur yr Academi, [musicology].
  2. Gwall cyfeirio: Tag <ref> annilys; ni roddwyd testun ar gyfer 'ref' o'r enw NDHI
  3. Gwall cyfeirio: Tag <ref> annilys; ni roddwyd testun ar gyfer 'ref' o'r enw EB

© MMXXIII Rich X Search. We shall prevail. All rights reserved. Rich X Search