Cernywiaid

Cernywiaid
Hen fwynglawdd tun ger Pendeen, Cernyw
Cyfanswm poblogaeth
ansicr (mae'n debyg does dim mwy na 250 000 o Gernywiaid brodorol byd-eang)
Ardaloedd gyda niferoedd sylweddol
Cernyw
Ieithoedd
Saesneg, Cernyweg
Crefydd
Anglicaniaeth, Methodistiaeth
Grwpiau ethnig perthynol
Gwyddelod, Manawyr, Llydawyr, Albanwyr, Cymry, Saeson

Grŵp o bobl o darddiad Celtaidd sy'n gysylltiedig â Chernyw a'r Gernyweg yw'r Cernywiaid. Maent yn olrhain eu gwreiddiau i bobl gwreiddiol ynysoedd Prydain a siaradai iaith debyg iawn i'r Gymraeg, a chyn hynny, i'r Brythoniaid a drigai yno cyn dyfodiad y Rhufeiniaid. Un o'r Cernywiaid mwyaf adnabyddus yn 2018 oedd y gantores Gwenno Saunders a gyfrifai ei hun hefyd yn Gymraeg.

Bu i'r Deyrnas Unedig eu cydnabod yn ffurfiol fel 'lleiafrif cenedlaethol' (national minority) yn 2014.[1]

Ceir llawer o Gernywiaid sy'n ymhyfrydu yn eu tras a'u hunaniaeth cwbwl wahanol i weddill trigolion Lloegr, sydd ar y cyfan yn Saeson o dras Sacsonaidd a phobloedd eraill.

Llwythi Celtaidd a drigai yma o'r Oes Haearn, drwy arhosiad y Rhufeiniaid, ac yna eu disgynyddion hyd at y 7g: y Dumnonii gan mwyaf yng Nghernyw a'r Durotriges yn Dorset, de Wiltshire a de Gwlad yr Haf. 'Cernyw' oedd enw'r darn o dir ble'r oeddent yn byw erioed hyd y gwyddus. Daw'r enw o enw'r llwyth y Cornovii, ond cyfeiria'r mewnlifiad o Sacsoniaid yn y 5ed a'r 6g atynt fel "Westwalas", sef "Cymru'r Gorllewin" - sy'n dangos y cysylltiad Cymreig a Cheltaidd yn glir iawn.

  1. "Cornish people formally declared a national minority along with Scots, Welsh and Irish". The Independent. 23 Ebrill 2014. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2014-04-24. Cyrchwyd 23 April 2014.

© MMXXIII Rich X Search. We shall prevail. All rights reserved. Rich X Search