Chelyabinsk

Chelyabinsk
Челя́бинск
Mathuned weinyddol o dir yn Rwsia, dinas Edit this on Wikidata
Poblogaeth1,182,517 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 1736 Edit this on Wikidata
Pennaeth llywodraethYevgeny Teftelev, Kotova, Natalia Petrovna Edit this on Wikidata
Cylchfa amserUTC+05:00 Edit this on Wikidata
Gefeilldref/i
Iaith/Ieithoedd
  swyddogol
Rwseg Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirOblast Chelyabinsk Edit this on Wikidata
GwladBaner Rwsia Rwsia
Arwynebedd500.9 km² Edit this on Wikidata
Uwch y môr220 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau55.15°N 61.4°E Edit this on Wikidata
Cod post454000–454999 Edit this on Wikidata
Pennaeth y LlywodraethYevgeny Teftelev, Kotova, Natalia Petrovna Edit this on Wikidata
Map

Mae Chelyabinsk (Rwsieg: Челя́бинск, IPA: [tɕɪˈlʲæbʲɪnsk]) yn ddinas ac yn ganolfan weinyddol yr Oblast Chelyabinsk, Rwsia. Hi yw'r seithfed ddinas fwyaf yn Rwsia yn ôl ei phoblogaeth, gyda 1,130,132 o drigolion yng Nghyfrifiad 2010, a'r ail ddinas fwyaf yn Dosbarth Ffederal Ural, ar ôl Yekaterinburg. Wedi'i lleoli yng ngogledd-ddwyrain yr oblast, 210 cilomedr (130 milltir) i'r de o Yekaterinburg, mae'r ddinas ychydig i'r dwyrain o'r Mynyddoedd Ural. Mae'n eistedd ar Afon Miass, afon sydd wedi ei leoli ar ran o'r ffin rhwng Ewrop ac Asia[1][2][3]

Mae Chelyabinsk yn parhau i fod yn ganolfan ddiwydiannol bwysig ers adeg yr Undeb Sofietaidd; lle y cynhyrchwyd lawer o danciau ar gyfer y Fyddin Goch. Mae hi'n enwedig yn parhau gyda diwydiannau trwm fel diwydiannau metelegol a cynhyrchu eitemau milwrol. Mae'n gartref i sawl sefydliad addysgol, yn bennaf Prifysgol Talaith De yr Ural a Phrifysgol Talaith Chelyabinsk. Yn 2013, ffrwydrodd gwibfaen Chelyabinsk dros Mynyddoedd yr Ural, gyda darnau yn cwympo i'r ddinas gan gwibio'n agos ati. Achosodd y ffrwydriad o'r meteor gannoedd o anafiadau, rhai ohonynt yn ddifrifol, wedi'u hachosi'n bennaf gan ddarnau gwydr o ffenestri wedi'u chwalu. Mae Amgueddfa Ranbarthol Chelyabinsk yn cynnwys darnau o'r gwibfaen.

  1. "Investing in Chelyabinsk city". Invest in Russia. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2020-12-01. Cyrchwyd February 14, 2013.
  2. "Murzina" (PDF).
  3. "Invest in Ural". Invest in Ural. Archifwyd o'r gwreiddiol ar Chwefror 24, 2013. Cyrchwyd Chwefror 14, 2013.

© MMXXIII Rich X Search. We shall prevail. All rights reserved. Rich X Search