Cnofil

Cnofilod
Llygoden Fach (Mus musculus)
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Animalia
Ffylwm: Chordata
Dosbarth: Mammalia
Urdd: Rodentia
Bowdich, 1821
Is-urddau

Sciuromorpha
Castorimorpha
Myomorpha
Anomaluromorpha
Hystricomorpha

Mamal bychan yw'r cnofil (gair cyfansawdd o: cnoi a fil, 'mil' fel mil-feddyg, mil-ain; sef anifail) ac aelod o'r urdd a elwir yn wyddonol yn Rodentia. Nodweddir y cnofil gan ddim ond un pâr o flaenddannedd miniog iawn sy'n tyfu'n barhaus yn yr ên uchaf ac yn yr ên isaf ar gyfer cnoi bwyd ac amddiffyn. Mae mwy na 2200 o rywogaethau o gnofil a geir ledled y byd ac eithrio Antarctica. Mae'r mwyafrif o gnofilod yn lysysol.

Mae tua 40% o'r holl rywogaethau mamaliaid yn gnofilod. Maent yn frodorol i'r cyfandiroedd oddigerth i Seland Newydd, Antarctica, a nifer o ynysoedd cefnforol.

Mae cnofilod yn hynod o amrywiol o ran ecoleg a ffordd o fyw a gellir eu canfod ym mron pob cynefin daearol, gan gynnwys amgylcheddau dynol (ee llygod a gwiwerod). Amrywiol hefyd yw eu cynefinoedd, sy'n cynnwys coed, mewn tyllau, lled-ddyfrol, a rhai rhywogaethau'n llamu o'u coesau ôl. Fodd bynnag, mae pob cnofil yn rhannu nifer o nodweddion morffolegol, gan gynnwys cael dim ond un pâr uchaf ac isaf o flaenddannedd sy'n tyfu'n barhaus.

Ymhlith yr enghreifftiau o gnofilod adnabyddus mae: llygod, llygod mawr, gwiwerod, cŵn paith, ballasg, afancod, moch cwta, a bochdewion. Roedd cwningod, ysgyfarnogod a phikas, y mae eu blaenddannedd hefyd yn tyfu'n barhaus wedi'u cynnwys gyda nhw ar un adeg, ond maen nhw bellach yn cael eu hystyried mewn urdd ar wahân, y Lagomorpha. Serch hynny, mae Rodentia a Lagomorpha yn chwaer-grwpiau, sy'n rhannu'r un hynafiad cyffredin ac yn ffurfio'r cytras Glires.

Mae'r cofnod ffosil o'r cnofilod yn dyddio'n ôl i'r Paleosen ar uwchgyfandir Lawrasia. Roedd cnofilod yn amrywio'n fawr yn yr Eosene, wrth iddynt ymledu ar draws cyfandiroedd, weithiau hyd yn oed yn croesi cefnforoedd. Cyrhaeddodd cnofilod Dde America a Madagascar o Affrica a, hyd at ddyfodiad Homo sapiens, nhw oedd yr unig famaliaid brych daearol i gyrraedd a gwladychu Awstralia.

Mae cnofilod wedi cael eu defnyddio fel bwyd ar gyfer pobl, dillad, fel anifeiliaid anwes, ac fel anifeiliaid labordy mewn ymchwil. Mae rhai rhywogaethau, yn arbennig, y llygoden fawr frown, y llygoden fawr ddu, a llygoden y tŷ, yn blâu difrifol mewn rhai mannau, yn bwyta ac yn difetha bwyd sy'n cael ei storio gan bobl ac yn lledaenu clefydau. Mae rhywogaethau o gnofilod a gyflwynwyd yn ddamweiniol yn aml yn cael eu hystyried yn ymledol ac wedi achosi diflaniad nifer o rywogaethau eraill, megis adar yr ynys, gyda'r dodo yn enghraifft, a oedd wedi'u hynysu'n flaenorol oddi wrth ysglyfaethwyr tir.


© MMXXIII Rich X Search. We shall prevail. All rights reserved. Rich X Search