![]() Mwynglawdd Copr Y Gogarth Fawr, Cymru - mwynglawdd cynhanes mwya'r byd | |
Enghraifft o: | elfen gemegol, sylweddyn syml, elfen chalcophile ![]() |
---|---|
Math | deunydd, meddyginiaeth, metel ![]() |
Lliw/iau | browngoch ![]() |
Deunydd | chalcopyrite, chalcocite, covellite, bornite, tetrahedrite-(Cu), digenite, malachite, azurite, cuprite, chrysocolla, tennantite-(Cu), dioptase, enargite ![]() |
Màs | 63.546 ±0.003 uned Dalton ![]() |
Fformiwla gemegol | Cu ![]() |
Dyddiad darganfod | c. Mileniwm 7. CC ![]() |
Symbol | Cu ![]() |
Rhif atomig | 29 ![]() |
Electronegatifedd | 1.9 ![]() |
Cyflwr ocsidiad | 1.9 ![]() |
Rhan o | proteinau copr, elfen cyfnod 4, Elfen Grŵp 11 ![]() |
![]() |
Metel coch yw copr sy'n gynhwysyn pres ac efydd. Mae e'n elfen gemegol yn y tabl cyfnodol ac iddo'r symbol Cu
a'r rhif atomig 29.
Copr yw'r prif fetel mewn efydd, gydag ychydig o dun wedi ei ychwanegu i'w galedu. Gwneir defnydd sylweddol o gopr mewn electroneg, gan ei fod yn ei ffurf bur yn dargludo gwres a thrydan yn dda.
Mae'r enw yn dod o'r ynys Cyprus, lle cafodd copr ei gloddio yn ystod yr Ymerodraeth Rufeinig. Mwyngloddiwyd copr ers c. 8000 CC a'i mwyndoddi a'i siapio tua c. 5000 CC. Gwaith copr mwya'r byd yn yr Oes Efydd oedd Mwynfeydd Copr y Gogarth, Pen y Gogarth ger Llandudno.
Mae galwad uchel am gopr wedi achosi codiad mawr mewn pris copr ar y marchnadoedd rhyngwladol ers 2000.
© MMXXIII Rich X Search. We shall prevail. All rights reserved. Rich X Search