Cristnogaeth

Cristnogaeth
Enghraifft o'r canlynolgrwp crefyddol mawr Edit this on Wikidata
MathCrefyddau Abrahamig Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydluc. 33 Edit this on Wikidata
Lleoliadledled y byd Edit this on Wikidata
Yn cynnwysCristnogaeth y Gorllewin, Cristnogaeth Ddwyreiniol, Christian denominational family, enwad Cristnogol, Christian movement Edit this on Wikidata
SylfaenyddIesu, y Forwyn Fair, yr Apostol Paul, Sant Pedr Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Pregeth ar y Mynydd gan Carl Heinrich Bloch, arlunydd Daneg, tua 1890.

Mae Cristnogaeth neu Cristionogaeth yn grefydd undduwiaeth sy'n seiliedig ar ddysgeidiaeth a ffydd bersonol yn Iesu Grist. Gosodir prif egwyddorion Cristnogaeth yn y Beibl, casgliad o lyfrau a llythyrau a ysgrifennwyd yn yr iaith Aramaeg, Hebraeg, a Groeg yn wreiddiol. Mae'r enw Crist yn dod o'r gair Groeg Χριστός (Christos) sy'n golygu "yr Eneiniog".

Gorchymyn cyntaf Iesu Grist oedd "caru Duw", a'r ail orchymyn oedd "câr dy gymydog" (Marc XII:30,31 a Luc X:27). Mae haelioni (anhunanoldeb), trugaredd a chyfiawnder yn ganolog i Gristnogaeth ond y cysyniad creiddiol yn y ffydd Gristnogol ydy Gras Duw. Hanfod Cristnogaeth ydy fod pob peth yn bosib trwy ras Duw a bod y ddynoliaeth yn medru dod i berthynas a Duw ac etifeddu bywyd tragwyddol yn y Nefoedd trwy ffydd sy'n bosib trwy ras Duw ac nid trwy weithredoedd dynion. Canolbwynt y ffydd Gristnogol oedd gwaith Iesu Grist, rhan o'r Duwdod Cristnogol, a'r Groes yn cymodi dyn a Duw. Gwêl Cristnogion y weithred yma fel yr ymddangosiad amlycaf o ras eu Duw ac i'r Cristion "Crist ac yntau wedi ei groeshoelio" yw canolbwynt a man cychwyn eu ffydd.

Mae'n ymddangos nawr fod yr Iesu wedi ei eni tua 4 CC ym Methlehem. Does dim llawer o wybodaeth am ei fywyd cynnar nes iddo gyrraedd 30 oed pan benododd ddeuddeg o ddisgyblion (y Deuddeg Apostol). Cafodd Iesu ei groeshoeli tua 29 OC, neu yn ôl amseryddiaeth yr Eglwys Gatholig 7 Ebrill 30.


© MMXXIII Rich X Search. We shall prevail. All rights reserved. Rich X Search