Math | cymuned |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Sir Fynwy |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 51.91994°N 3.01578°W |
Cod SYG | W04001061 |
Gwleidyddiaeth | |
AC/au | Peter Fox (Ceidwadwyr) |
AS/au | David Davies (Ceidwadwr) |
Cymuned yn Sir Fynwy, Cymru, yw Crucornau (Saesneg: Crucorney). Saif yng ngogledd y sir, ac mae'n cynnwys Dyffryn Ewias a rhan o'r Mynydd Du. Y prif bentrefi yw Llanfihangel Crucornau, Pandy a Llanddewi Nant Hodni. Ymhlith hynafiaethau'r gymuned mae Priordy Llanddewi Nant Hodni. Roedd poblogaeth y gymuned yn 2001 yn 1,170.
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Peter Fox (Ceidwadwyr)[1] ac yn Senedd y DU gan David Davies (Ceidwadwr).[2]
© MMXXIII Rich X Search. We shall prevail. All rights reserved. Rich X Search