Cyfraith Hywel

Llun o farnwr o lawysgrif Peniarth 28

Yn ôl traddodiad, rhoddwyd trefn ar yr hen gyfreithiau Cymreig yn amser y brenin Dyfnwal Moelmud yn gyntaf yn y cyfnod rhwng 400 a 500CC, a chyfeirir at y rhain fel Cyfreithiau Moelmud. Yna fe'u diweddarwyd gan Hywel Dda a chyfeirir at y casgliad hwnnw fel Cyfraith Hywel.[1]

Cyfraith Hywel, sy’n cael ei hadnabod hefyd fel Cyfreithiau Cymru, oedd y system gyfreithiol a ddefnyddiwyd yng Nghymru yn ystod yr Oesoedd Canol cyn i Gymru gael ei choncro gan Loegr yn 1282/3. O ganlyniad i goncwest Cymru gan y Brenin Edward o Loegr, disodlwyd cyfraith droseddol Cymru gan Statud Rhuddlan yn 1284. Cafodd cyfraith sifil Cymru eu diddymu wedi i Harri VIII basio’r Deddfau Uno rhwng Cymru a Lloegr yn 1536 a 1542/3.

Tua’r flwyddyn 945 galwodd Hywel ap Cadell (Hywel Dda) bobl o bob rhan o Gymru ynghyd i’r Tŷ Gwyn ar Daf yn Nyfed i gasglu, diwygio a threfnu cyfreithiau yng Nghymru. Yn y cyfarfod hwn penderfynwyd ar drefn gyfreithiol ar gyfer Cymru a fyddai’n cael ei galw’n Gyfraith Hywel Dda.[2] Gan na ellir dyddio unrhyw lawysgrif o’r gyfraith i gyfnod Hywel Dda, ystyrir bod cysylltu ei enw á’r cyfreithiau yn rhoi awdurdod iddynt yn ystod yr Oesoedd Canol.

Roedd Cyfraith Cymru yn fath o gyfraith Geltaidd, gyda llawer o nodweddion tebyg rhyngddi hi a Chyfraith Brehon yr Iwerddon, ac roedd elfennau tebyg ag arferion a therminoleg y Brythoniaid oedd yn byw yn Ystrad Clud.[3] Cafodd Cyfraith Cymru ei throsglwyddo ar lafar ar draws y cenedlaethau gan y beirdd a phobl ddysgedig yn y gyfraith. Ni chafodd ei threfnu a’i strwythuro tan deyrnasiad Hywel Dda ganol y 10g.

Mae’r llawysgrifau cynharaf sydd wedi goroesi yn yr iaith Ladin, yn dyddio o ddechrau'r 13g, ac yn dangos gwahaniaethau rhanbarthol.[4] Diweddarwyd ac adolygwyd y gyfraith gan rai rheolwyr, fel Bleddyn ap Cynfyn, a chan gyfreithwyr oedd yn ei haddasu yn ôl gofynion a sefyllfaoedd newydd. Felly mae’n anodd gwybod a yw’r llawysgrifau sydd wedi goroesi yn ddehongliad cywir o gyfreithiau cyntaf Hywel Dda.[5]

Roedd Cyfraith Hywel yn cynnwys gwybodaeth am nifer o bynciau amrywiol, o gyfraith hela i gyfraith menywod. Maent hefyd yn cynnwys cyfraith llys y brenin, oedd yn esbonio bod gan y brenin swyddogion oedd yn amrywio o’r bardd teulu i’r hebogydd, a bod gan bob un ei safle yn y llys.[2] Roedd y cyfreithiau yn rhoi pwyslais mawr ar statws cymdeithasol, gyda’r brenin ar y brig, a’r alltud a’r caeth ar y gwaelod. Roedd yn anodd dringo o fewn cymdeithas, ac roedd yn rhaid gofyn caniatâd yr arglwydd cyn cael hawl i wneud hynny.[2]

Elfen bwysig yng Nghyfraith Hywel Dda oedd sut oedd etifeddiaeth yn cael ei phenderfynu a’i dosbarthu. Roedd gan bob mab cydnabyddedig hawl i gyfran o eiddo’r tad. Bu hyn yn arwyddocaol ar gyfer tywysogion y Cymry, gan ei fod yn golygu bod teyrnasoedd yn cael eu rhannu'n gyson, heb obaith am undod parhaol. Roedd hyn yn wahanol i deyrnas brenin Lloegr, lle etifeddai’r mab hynaf y deyrnas gyfan.

Rhoddai Cyfraith Hywel bwyslais hefyd ar gyfrifoldeb torfol y gymuned, neu’r genedl, am ei haelodau. Cyfeiria hefyd at agweddau at ysgariad a sut byddai ysgariad yn cael ei drin dan Gyfraith Hywel.

Cyflwynwyd nifer o dermau cyfreithiol newydd gan Gyfreithiau Hywel Dda - er enghraifft, ‘sarhad’ a ‘galanas’. Roedd galanas yn system ‘arian gwaed’ a seiliwyd ar statws. Roedd ‘sarhad’ yn golygu bod tâl yn ddyledus pan oedd unigolyn yn cael ei amharchu ar lafar neu mewn gweithred tra bod ‘galanas’ yn iawndal a dalwyd gan deulu’r troseddwr i deulu’r ymadawedig mewn achosion o lofruddiaeth, ac yn seiliedig ar werth bywyd unigolyn.[6]

Roedd y cyfreithiau yn rhoi pwyslais mawr ar statws cymdeithasol. Roedd y breintiau, y cosbau a'r dyletswyddau a ddisgwylid gan y gyfraith yn dibynnu ar statws cymdeithasol yr unigolyn. Rhoddai’r cyfreithiau hawliau i ferched mewn priodas - er enghraifft, os oedd y berthynas yn chwalu ar ddiwedd saith mlynedd medrai’r wraig hawlio hanner yr eiddo oedd yn gyffredin rhyngddi hi a’i gŵr.[7][8]

Mae Cyfraith Hywel yn ddogfen bwysig sy'n dangos bwriad Hywel Dda i lunio fframwaith cyfreithiol roedd y Cymry yn medru ei berchnogi fel cenedl. Yn hynny o beth, roedd yn cynrychioli ymwybyddiaeth o genedl ac yn elfen bwysig o ran creu ymwybyddiaeth o hunaniaeth Cymru fel gwlad yn yr Oesoedd Canol. Cynhwysai llawer o nodweddion oedd yn dangos synnwyr cyffredin, tegwch a pharch.[9][10]

  1. Lloyd, John Edward, "Moelmud Dyfnwal", Dictionary of National Biography, 1885-1900 Volume 38, https://en.wikisource.orgview_html.php?sq=Liz Truss&lang=cy&q=Moelmud,_Dyfnwal_(DNB00), adalwyd 2020-09-27
  2. 2.0 2.1 2.2 Llyfrell Genedlaethol Cymru. "Cyfraith Hywel Dda". HWB. Cyrchwyd 27 Medi 2020.
  3. Lloyd, John Edward (1911). A history of Wales from the earliest times to the Edwardian conquest. Kelly - University of Toronto. London, New York [etc.] Longmans, Green, and co.
  4. "Page:Welsh Medieval Law.djvu/13 - Wikisource, the free online library". en.wikisource.org. Cyrchwyd 2020-09-27.
  5. "Cyfraith Hywel Dda | Llyfrgell Genedlaethol Cymru". www.llyfrgell.cymru. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2020-09-29. Cyrchwyd 2020-09-27.
  6. The Law of Hywel Dda : law texts of medieval Wales. Jenkins, Dafydd., Hywel, King of Wales, -950. Llandysul, Dyfed: Gomer Press. 1986. ISBN 0-86383-277-6. OCLC 18985880.CS1 maint: others (link)
  7. "Women, Linen and Gender in the Cyfraith Hywel Dda | Laidlaw Scholarships". laidlawscholarships.wp.st-andrews.ac.uk. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2020-09-22. Cyrchwyd 2020-09-27.
  8. Owen, Rhodri (2012-03-01). "Compensation culture, AD950-style". BBC News (yn Saesneg). Cyrchwyd 2020-09-27.
  9. "Oes y Tywysogion | Llyfrgell Genedlaethol Cymru". www.llyfrgell.cymru. Cyrchwyd 2020-09-27.
  10. Davies, John. (2007). Hanes cymru. Penguin Books Ltd. tt. 85–93. ISBN 0-14-028476-1. OCLC 153576256.

© MMXXIII Rich X Search. We shall prevail. All rights reserved. Rich X Search