Cyfrifoldeb i amddiffyn

Norm neu drefn o egwyddorion yng nghysylltiadau rhyngwladol yw'r cyfrifoldeb i amddiffyn (Saesneg: responsibility to protect, yn fyr RtoP neu R2P) sy'n seiliedig ar y syniad taw cyfrifoldeb yw sofraniaeth, nid braint. Mae'r cyfrifoldeb i amddiffyn yn canolbwyntio ar atal pedwar trosedd: hil-laddiad, troseddau rhyfel, troseddau yn erbyn dynoliaeth, a glanhau ethnig.

Yn ôl rhai, mae'r gymuned ryngwladol wedi rhoi'r cysyniad ar waith trwy ymyrryd yn Rhyfel Cartref Libia.


© MMXXIII Rich X Search. We shall prevail. All rights reserved. Rich X Search