Cymanfa Westminster

A painting of the Westminster Assembly in session. Philip Nye is standing and gesturing. Various figures are seated around a table. Prolocutor William Twisse is seated on a raised platform.
Darlunia'r llun hwn gan John Rogers Herbert araith arbennig o ddadleuol gerbron y Gymanfa gan Philip Nye yn erbyn llywodraeth eglwysig Bresbyteraidd.[1]

Cyngor o ddiwinyddion ac aelodau o Senedd Lloegr oedd Cymanfa Diwinyddion Westminster, a benodwyd er mwyn ailstrwythuro Eglwys Loegr mewn cyfres o gyfarfodydd rhwng 1643 a 1653. Saeson oedd y mwyfrif o'r diwinyddion, ond mynychodd sawl Albanwr hefyd a mabwysiadwyd gwaith y Gymanfa gan Eglwys yr Alban. Cymaint â 121 o weinidogion a alwyd i'r Gymanfa a 19 arall a ddaeth wedyn i gymryd lle'r rhai na fynychasant neu na allent barhau i fynychu. Lluniasant Ffurf Llywodraeth Eglwysig, Cyffes Ffydd (datganiad o gred), dau gatecism (llawlyfrau hyfforddiant crefyddol), sef y Mwyaf a'r Lleiaf, a Chyfarwyddiadur Addoliad Cyhoeddus, i gyd at ddefnydd Eglwysi Lloegr a'r Alban. Derbyniwyd y Gyffes a'r catecismau fel safonau athrawiaeth Eglwys yr Alban ac eglwysi Presbyteraidd eraill, lle y maent yn parhau i gael eu defnyddio hyd heddiw. Defnyddiwyd fersiynau diwygiedig o'r Gyffes mewn eglwysi'r Cynulleidfawyr a'r Bedyddwyr yn Lloegr a Lloegr Newydd yn yr 17il a'r 18goedd. Bu dylanwad y Gyffes i'w weld yn y byd Saesneg, ond yn enwedig yn niwinyddiaeth Protestannaidd America.

Galwyd y Gymanfa gan y Senedd Faith cyn ac yn ystod dechrau Rhyfel Cartref Cyntaf Lloegr. Roedd y Senedd Faith dan ddylanwad Piwritaniaeth, mudiad crefyddol a geisiai ddiwygio'r Eglwys ymhellach. Roedd y Piwritaniaid yn erbyn polisïau'r Brenin Siarl I a William Laud, Archesgob Caergaint. Fel rhan o gynghrair filwrol â'r Alban, cytunodd y Senedd y byddai canlyniad y Gymanfa yn dod ag Eglwys Loegr yn nes at gydymffurfio ag Eglwys yr Alban. Roedd Eglwys yr Alban yn cael ei llywodraethu gan gyfundrefn o gymanfaoedd etholedig o henaduriaid o'r enw Presbyteriaeth, yn hytrach na chael ei rheoli gan esgobion, sef trefn Eglwys Loegr. Mynychai comisiynwyr o'r Alban y Gymanfa a'i chyngori fel rhan o'r cytundeb. Bu i anghydfod am lwyodraeth eglwysig achosi rhwyg agored yn y Gymanfa, er gwaethaf ymdrechion i sefyll ynghyd. Y garfan o ddiwinyddion a gefnogai Bresbyteriaeth oedd y mwyafrif, ond arweiniodd gwleidyddiaeth a sefyllfa filwrol y pryd at ddylanwad mwy gan y garfan Gynulleidfaol. Roedd yn well gan y Cynulleidfawyr gynulleidfaoedd hunanlywodraethol yn hytrach na rhai wedi'u rheoli gan gymanfaoedd rhanbarthol a chenedlaethol fel yn y gyfundrefn Bresbyteraidd. Yn y pen draw, derbyniodd y Senedd ffurflywodraeth Bresbyteraidd, ond nid oedd ganddi'r grym yr oedd y diwinyddion Presbyteraidd am ei gael. Yn ystod Adferiad y fonarchiaeth ym 1660, diarddelwyd dogfennau'r Gymanfa ac adferwyd llwyodraeth esgobol yn Eglwys Loegr.

Gweithiai'r Gymanfa yn nhraddodiad diwinyddol y Protestaniaid Diwygiedig, neu'r Calfaniaid. Mae Calfinaeth yn derbyn y Beibl fel gair awdurdodol Duw y dylid seilio pob diwinyddiaeth arno. Roedd y diwinyddion yn ymroddedig i'r athrawiaeth Ddiwygiedig o ragarfaeth—sef bod Duw yn dewis gwaredu rhai pobl i fwynhau bywyd tragwyddol yn hytrach na chosb dragwyddol. Bu anghytuno yn y Gymanfa dros athrawiaeth prynedigaeth benodol—mai dim ond dros y rhai a ddewiswyd i'w gwaredu y bu farw Crist. Credai hefyd mewn diwinyddiaeth gyfamodol, fframwaith i ddehongli'r Beibl. Y cyntaf o'r cyffesau Diwygiedig i ddysgu athrawiaeth cyfamod gweithredoedd oedd un y Gymanfa, sef i Dduw addo bywyd tragwyddol i Adda cyn y Cwymp ar yr amod y byddai'n ufuddhau i Dduw'n berffaith.

  1. de Witt 1969, t. 112.

© MMXXIII Rich X Search. We shall prevail. All rights reserved. Rich X Search