Baner (Y Ddraig Goch) | |
Arwyddair | "Cymru am byth", "Y Ddraig Goch Ddyry Cychwyn", "Yma o Hyd" |
---|---|
Math | Gwlad |
Prifddinas | Caerdydd |
Poblogaeth | 3,107,500 (2021) |
Sefydlwyd | Ymadawiad Macsen Wledig yn 383 CC
Unwyd gan Gruffydd ap Llywelyn yn 1057 Diffiniwyd fel tiriogaeth eto yn 1967 Datganoli yn 1998 |
Anthem | Hen Wlad fy Nhadau |
Pennaeth llywodraeth | Vaughan Gething |
Cylchfa amser | UTC±00:00 |
Nawddsant | Dewi Sant |
Iaith/Ieithoedd swyddogol | Cymraeg, Saesneg |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | cenhedloedd Celtaidd |
Sir | 22 o siroedd |
Arwynebedd | 21,218 km² |
Yn ffinio gyda | Lloegr |
Cyfesurynnau | 52.35°N 3.63°W |
Cod SYG | W92000004 |
"Gwlad" | |
Gwleidyddiaeth | |
Corff gweithredol | Llywodraeth Cymru |
Corff deddfwriaethol | Senedd Cymru |
Swydd pennaeth y wladwriaeth | teyrn y Deyrnas Unedig |
Pennaeth y wladwriaeth | Siarl III |
Swydd pennaeth y Llywodraeth | Prif Weinidog Cymru |
Pennaeth y Llywodraeth | Vaughan Gething |
Ariannol | |
Cyfanswm CMC (GDP) | £85.4 biliwn (2022)[1] |
Arian | punt sterling |
Mae Cymru (Saesneg: Wales; Cernyweg: Kembra) yn wlad Geltaidd yn Ewrop. Ers 1284 hawliwyd Cymru fel rhan o deyrnas Lloegr a newidiodd i'r Deyrnas Unedig yn 1707 ar ôl i'r Alban ddod yn rhan ohoni. Cymraeg yw iaith frodorol y wlad a siaredir Saesneg hefyd gan y mwyafrif helaeth o'i dinasyddion hefyd erbyn heddiw.
Mae Cymru yn ffinio â Lloegr i'r dwyrain a'r moroedd; Môr Hafren, Y Môr Celtaidd a Môr Iwerddon. Roedd gan Gymru boblogaeth o 3,107,500 yn 2021[2] ac mae ganddi arwynebedd o 20,779 km2 (8,023 mi). Mae gan Gymru dros 2,700 km (1,700 mi) o arfordir ac mae'n fynyddig ar y cyfan. Mae gan Gymru fynyddoedd talach yn y gogledd a'r canoldir, gan gynnwys yr Wyddfa, ei chopa uchaf, yn Eryri. Mae'r wlad o fewn y ardal tymheredd y gogledd ac mae ganddi hinsawdd forwrol. Y brifddinas a'r ddinas fwyaf yw Caerdydd.
Brwydrodd lwythau'r Brythoniaid Celtaidd yn erbyn y Rhufeiniaid yn y 1g ac ni chafwyd feddiant llawn o Gymru tan iddynt adael yn y 3g a 4g. Datblygodd synnwyr of hunaniaeth a chenedlaetholdeb Gymreig yn ystod y canol oesoedd yn enwedig ar ôl glaniad yr Eingl-Sacsoniaid yn nwyrain Prydain yn y 5g. Rhodri Mawr oedd y cyntaf i uno rhan mawr o Gymru yn y 9g gan a deyrnasu dros Wynedd, Powys, Ceredigion ac Ystrad Tywi. Yr unig frenin a lwyddodd i reoli Cymru gyfan oedd Gruffudd ap Llywelyn o 1057 hyd at 1063. Yn y 10g rheolodd Hywel Dda Cymru oll heblaw am Morgannwg; cyflwynoddGyfraith Hywel a hyd yn oed cynhyrchu ei arian ei hun.
Ar ôl i'r Normaniad oresgyn Cymru ar ôl 1066, sefydlwyd Pura Wallia a'r Y Mers. Llwyddoodd Owain Gwynedd a Rhys ap Tewdwr i adennill Gwynedd a Deheubarth oddi ar y Normaniaid ac fe gawsant lwyddiant mawr yn eu herbyn ym Mrwydr Crug Mawr yn 1136. Defnyddiodd y teitl brenin Cymru ac yn hwyrach "princeps" a ddynodai arweinydd sofran gwlad yn ôl cyfraith Rhufeinig. Yn 1201 fe ddaeth Llywelyn ap Iorwerth i'r amlwg gan enill rheolaeth dros Wynedd a gwneud ei hun yn "Dywysog Gogledd Cymru gyfan", ac yn hwyrach defnyddiodd y teitl "Tywysog Aberffraw ac Arglwydd Eryri". Trosglwyddodd ei bwerau i'w fab Dafydd ap Llywelyn a chasglodd arweinwyr eraill y wlad yn Abaty Ystrad Fflur ynghyd i dalu gwrogaeth iddo fel Tywysog Cymru.
Etifeddodd mab Dafydd, Llywelyn ap Gruffudd Wynedd ond yn 1282 fe'i lladdwyd ger Cilmeri. Lladdwyd ei frawd Dafydd ap Gruffudd yn 1283 a phasiwyd Statud Rhuddlan yn 1284 gan gwblhau gorchfygiad de facto a chyfreithiol Cymru gan Edward I, brenin Lloegr. Dyma oedd diwedd annibyniaeth y wlad.
O 1400-1410 ailenillodd Owain Glyndŵr annibyniaeth i Gymru ac yn yr un cyfnod pasiwyd Deddfau Penyd yn erbyn Cymru yn 1402 i'w cosbi. Ar ôl i'r gwrthryfel fethu yn y tymor hir, cafodd Cymru ei hatodi gan Loegr a'i hymgorffori o fewn cyfundrefn gyfreithiol Lloegr o dan Deddfau'r Cyfreithiau yng Nghymru 1536 a 1542.
Datblygodd gwleidyddiaeth Gymreig nodedig yn y 19g, yn arbennig yn gysylltiedig â Rhyddfrydiaeth Gymreig ac hefyd Cymru Fydd. Amlygwyd hyn ar ddechrau'r 20g gan David Lloyd George, ond cafodd ei ddadleoli gan dwf sosialaeth a sefydlwyd Llafur Cymru erbyn 1947. Ymgyrchodd Lloyd George yn gryf dros ddatganoli i Gymru yn ei yrfa cynnar a thyfodd teimlad cenedlaethol Cymreig dros y ganrif. Ffurfiwyd Plaid Cymru yn 1925, a Chymdeithas yr Iaith yn 1962. Enillodd datganoli Cymreig fomentwm yn ystod yr 20fed ganrif ac yn dilyn refferendwm datganoli Cymreig 1997, ffurfiwyd y Cynulliad yn 1999, ac mae wedi ennill mwy o ddatganoli ers hynny ail hail-henwi yn Senedd Cymru yn 2020. Daeth mudiad cryfach dros annibyniaeth i Gymru i’r amlwg erbyn 2017, pan drafodwyd ail refferendwm annibyniaeth i'r Alban. Daeth grwpiau o blaid annibyniaeth, megis YesCymru yn boblogaidd yn yr 21ain ganrif, er nad yw annibyniaeth yn cael ei chefnogi gan fwyafrif yng Nghymru.
Ar ddechrau’r chwyldro diwydiannol yng Nghymru, trawsnewidiodd datblygiad y diwydiannau mwyngloddio a metelegol y wlad o fod yn gymdeithas amaethyddol i fod yn genedl ddiwydiannol; achosodd ecsbloetio Maes Glo De Cymru gynnydd cyflym ym mhoblogaeth Cymru. Mae dwy ran o dair o'r boblogaeth yn byw yn Ne Cymru, gan gynnwys Caerdydd, Abertawe, Casnewydd a'r cymoedd. Mae gan ranbarth dwyreiniol Gogledd Cymru tua chweched o'r boblogaeth gyfan a Wrecsam yw tref mwyaf y gogledd. Mae gan gweddill Cymru ddwysedd poblogaeth llai. Nawr fod diwydiannau echdynnol a thrwm traddodiadol y wlad wedi dirywio, mae economi Cymru yn seiliedig ar y sector cyhoeddus, diwydiannau ysgafn a gwasanaeth, a thwristiaeth. O fewn y diwydiant ffermio, gan gynnwys ffermio llaeth, mae Cymru yn allforiwr net, gan gyfrannu at hunangynhaliaeth amaethyddol genedlaethol.
© MMXXIII Rich X Search. We shall prevail. All rights reserved. Rich X Search