Cynghrair y Pencampwyr UEFA

Cystadleuaeth bêl-droed blynddol ar gyfer prif glybiau Ewrop yw Cynghrair y Pencampwyr UEFA. Fe'i drefnir gan Undeb y Cymdeithasau Pêl-droed Ewropeiadd (UEFA).

Cyflwynwyd Cynghrair y Pencampwyr UEFA ym 1992 fel olynydd i Gwpan Pencampwyr Ewrop neu Cwpan Ewrop oedd wedi bodoli ers 1955[1]. Cyn 1992 dim ond pencampwr pob gwlad oedd yn cystadlu ond cafodd y gystadleuaeth ei hymestyn ym 1992. Ychwanegwyd rownd o grwpiau i'r gystadleuaeth a chafodd y gwledydd cryfaf yrru hyd at bedwar clwb i'r gystadleuaeth.

Yn ei ffurf bresennol, mae Cynghrair y Pencampwyr UEFA yn cychwyn yng nghanol mis Gorffennaf gyda tair rownd o gemau dros ddau gymal a gêm ail gyfle dros ddau gymal. Mae'r 10 tîm sydd weddill yn dilyn y rowndiau rhagbrofol yn ymuno â'r 22 o glybiau sydd yn ymuno'n syth yn rownd y grwpiau. Mae'r 32 tîm yn cael eu gosod mewn wyth grŵp o bedwar ac yn chwarae yn erbyn ei gilydd gartref ac oddi cartref gydag wyth enillydd y grŵp a'r wyth tîm orffennodd yn yr ail safle yn camu ymlaen i'r rowndiau olaf.[2].

Mae enillwyr Cynghrair y Pencampwyr UEFA yn sicrhau eu lle yn Super Cup UEFA a Chwpan Clwb y Byd FIFA[3][4].

Real Madrid ydi'r clwb mwyaf llwyddiannus yn hanes y gystadleuaeth ar ôl ennill y tlws ar 10 achlysur, gan gynnwys y pum tlws cyntaf. Sbaen ydi'r wlad â'r nifer fwyaf o bencampwyr (15) tra bod gan Lloegr a'r Eidal 12 buddugoliaeth yr un. Mae 22 o glybiau gwahanol wedi torri eu henwau ar y tlws, gyda 12 ohonynyt wedi codi'r tlws ar fwy nag un achlysur[5]. Ers newid ffurf ac enw'r gystadleuaeth ym 1992, nid oes yr un clwb wedi llwyddo i amddiffyn eu coron; A.C. Milan oedd y clwb diwethaf i amddiffyn eu coron yn ystod tymor 1989-90[6].

  1. "Football's premier club competition". Union of European Football Associations. 31 Ionawr 2010. Cyrchwyd 23 Mai 2010.
  2. "Matches". Unknown parameter |published= ignored (help)
  3. "Club competition winners do battle". Unknown parameter |published= ignored (help)
  4. "FIFA Club World Cup". Unknown parameter |published= ignored (help)
  5. "European Champions' Cup". Rec.Sport.Soccer Statistics Foundation. 2010-01-31.
  6. "1989/90 European Champions Clubs' Cup". UEFA.com. 2010-01-31.

© MMXXIII Rich X Search. We shall prevail. All rights reserved. Rich X Search