Cytsain

Sain lleferydd a gynhyrchir drwy gau neu drwy achludo ffrwd yr anadl sy'n pasio allan o'r ysgyfaint ar hyd llwybr y llais yw cytsain. Gan fod mwy o gytseiniaid yn ieithoedd y byd nag sydd yn yr wyddor Ladin neu mewn unrhyw ddull ysgrifennu arall, defnyddir symbolau'r Wyddor Seinegol Ryngwladol (yr IPA) i'w dynodi. Yn draddodiadol, gwahaniaethir rhwng cytseiniaid ar sail nifer o nodweddion cynaniadol:

  • dull cynanu: sut mae'r gytsain yn cael ei chynanu, ai drwy atal dylif yr anadl yn llwyr i greu ffrwydrolion megis /p b t d k g/ neu drwy lesteirio ffrwd yr anadl yn rhannol i greu ffritholion megis /f/ (Cymraeg ff), /v/ (Cymraeg f), /θ/ (Cymraeg th), /ð/ (Cymraeg dd) neu /x/ (Cymraeg ch)
  • lle cynanu: lle ar hyd llwybr y llais y digwydd y rhwystr. Yn y rhan fwyaf o achosion, mae hyn yn golygu lle mae'r tafod yn ymgyffwrd â thaflod
  • os yw'r tannau lleisiol yn dirgrynu fel y mae'r gytsain yn cael ei chynhyrchu, ceir cytsain leisiol megis /b d g v ð/; os nad yw'r tannau lleisiol yn dirgrynu, ceir cytsain ddi-lais megis /p t k f θ/.
  • amser dechrau lleisio
  • dull y mae'r awyr yn llifo
  • hyd y gytsain

Ceir hefyd gytseiniaid sy'n newid eu cynaniad fel y maen nhw'n cael eu cynhyrchu. Os yw cytsain yn dechrau gyda rhwystr llwyr yn llwybr y llais sydd wedyn yn gwanhau i fod yn rhwystr rhannol yn ail ran y gytsain, ceir cytsain affrithol megis /tʃ/ (fel yn y gair Tsieina) neu /dʒ/ (fel yn jôc).

Gall fod yna fwy nag un cynaniad yn yr un gytsain. Cyfeirir at hyn fel cynaniad eilradd.

Pan ceir mwy nag un cystsain yn dilyn eu gilydd, fe'i gelwir yn glwstwr cytseiniaid. Mae rhain yn gyffredin yn y Gymraeg, ymysg y rhain mae geiriau fel sglefrfwrdd a llyfrgell.


© MMXXIII Rich X Search. We shall prevail. All rights reserved. Rich X Search