Dafydd Glyn Jones

Dafydd Glyn Jones
Ganwyd1941 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethgeiriadurwr, ieithydd Edit this on Wikidata

Mae Dafydd Glyn Jones (ganed 1941) yn ysgolhaig a geiriadurwr o Gymro a aned ym mhentref Carmel yn Arfon, Gwynedd. Mae'n arbenigwr ar ryddiaith Cymraeg Canol ac mae ei ddiddordebau eraill yn cynnwys hanesyddiaeth Cymru, Robert Jones, Rhoslan, a bywyd a gwaith Emrys ap Iwan.

Y mae hefyd yn flogiwr ac yn sylwebydd gwleidyddol craff.

Cafodd ei addysg yn Ysgol Gynradd Carmel ac Ysgol Dyffryn Nantlle, Pen-y-groes. Astudiodd yng Ngholeg Prifysgol Gogledd Cymru, Bangor, ac yng Ngholeg Linacre, Rhydychen.

Treuliodd gyfnod hir fel darlithydd ac wedyn Uwch-ddarlithydd yn yr Iaith Gymraeg a Llenyddiaeth Gymraeg ym Mhrifysgol Cymru, Bangor. Gyda'i gyd-olygydd Bruce Griffiths, golygodd Geiriadur yr Academi. Ymddeolodd o'r brifysgol yn 2000.

Yn 2010 sefydlodd gwmni cyhoeddi Dalen Newydd sy'n cyhoeddi cyfuniad o glasuron allan-o-brint a gweithiau newydd.


© MMXXIII Rich X Search. We shall prevail. All rights reserved. Rich X Search