David Ricardo

David Ricardo
Ganwyd18 Ebrill 1772 Edit this on Wikidata
Llundain Edit this on Wikidata
Bu farw11 Medi 1823 Edit this on Wikidata
Gatcombe Park, Swydd Gaerloyw Edit this on Wikidata
Man preswylGatcombe Park Edit this on Wikidata
DinasyddiaethTeyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon, Teyrnas Prydain Fawr Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Talmud Torah school Edit this on Wikidata
Galwedigaetheconomegydd, brocer stoc, athronydd, gwleidydd, ysgrifennwr Edit this on Wikidata
SwyddAelod o 6ed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 6ed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 7fed Senedd y Deyrnas Unedig, High Sheriff of Gloucestershire Edit this on Wikidata
Plaid WleidyddolChwigiaid Edit this on Wikidata
PriodPriscilla Ann Wilkinson Edit this on Wikidata
PlantDavid Ricardo, Osman Ricardo Edit this on Wikidata

Economegydd o Sais yn yr ysgol glasurol oedd David Ricardo (18 Ebrill 177211 Medi 1823). Gan adeiladu ar waith arloesol Adam Smith, llwyddodd Ricardo i osod sail i wyddor economeg yn y 19g, a datblygu syniadaeth laissez-faire parthed rhan y llywodraeth yn yr economi.

Ganwyd David Ricardo yn Llundain, ac ef oedd y trydydd mab i rieni o Iddewon Seffardig a ymfudasant o'r Iseldiroedd i Loegr. Ymunodd â busnes ei dad ar Gyfnewidfa Stoc Llundain yn 14 oed, ac yn 20 oed fe ddaeth yn frocer stoc. O fewn pum mlynedd, llwyddodd David i ennill ffortiwn iddo'i hun, er iddo bechu yn erbyn ei dad gan droi'n Undodwr a phriodi Crynwraig. Trodd ei sylw at lenyddiaeth a'r gwyddorau, yn enwedig mathemateg, cemeg, a daeareg. Wedi iddo ddarllen The Wealth of Nations gan Adam Smith yn 1799, dechreuodd Ricardo ymddiddori yn economeg wleidyddol. Fe dreuliodd ddeng mlynedd yn astudio materion economaidd ac ariannol. Ysgrifennodd sawl pamffled, yn ogystal â llythyrau at y Morning Chronicle, cyn iddo gyhoeddi ei waith mawr cyntaf The Principles of Political Economy and Taxation (1817). Roedd Ricardo yn gyfaill i nifer o ddeallusion pwysig yr oes, gan gynnwys James Mill, Jeremy Bentham, a Thomas Malthus.

Ei gyhoeddiad cyntaf oedd The High Price of Bullion, a Proof of the Depreciation of Bank Notes (1810), casgliad ac estyniad o'i lythyrau at y Morning Chronicle ar bwnc cronfeydd aur y wladwriaeth a rôl Banc Lloegr. Ar y pryd, nid oedd yn rhaid i Fanc Lloegr dalu aur am ei bapurau punnoedd, ac o ganlyniad bu'r Banc a banciau gwledig yn Lloegr yn argraffu rhagor o bapurau ac yn cynyddu eu benthyciadau. Honnai cyfarwyddwyr Banc Lloegr nad oedd perthynas rhwng y cynnydd credyd y banciau a'r twf prisoedd a dibrisiant y bunt. Dadleuai Ricardo bod perthynas uniongyrchol rhwng nifer y papurau punnoedd a lefel y prisoedd, a bod prisoedd yn eu tro yn effeithio ar gyfraddau cyfnewid tramor yn ogystal â mewnlif ac all-lif aur. Yn ôl dadansoddiad Ricardo, felly, roedd yn rhaid i Fanc Lloegr ofalu am ei gronfeydd aur a llunio'i bolisi benthyg yn nhermau amodau'r economi ac i reoli maint yr arian a'r credyd yn yr economi. Cytunodd Pwyllgor Bwliwn Tŷ'r Cyffredin â syniadau Ricardo, ac roedd y ddadl yn bwysig wrth ddatblygu damcaniaethau bancio canolog.

Cyhoeddodd Ricardo Essay on the Influence of a Low Price of Corn on the Profits of Stock (1815), mewn ymateb i ddadl dros y Deddfau Ŷd. Dadleuai Ricardo bod cynyddu'r tariff ar fewnforion ŷd yn debygol o gynyddu rhenti yng nghefn gwlad tra'n gostwng elw y gweithgynhyrchwyr. Yn ei waith The Principles of Political Economy and Taxation, cyhoeddodd Ricardo ei ddamcaniaethau pwysicaf: deddf haearn cyflogau, a'r fantais gymharol. Yn ôl deddf haearn cyflogau, mae cyflog yn tueddu i sefydlogi ar sail y lefel gynhaliaeth. Yn ei enghraifft enwog o'r fantais gymharol, esboniai sut yr oedd yn effeithlon i Loegr gynhyrchu brethyn a Phortiwgal gynhyrchu gwin, cyn belled â bo'r ddwy wlad yn masnachu gyda'i gilydd, hyd yn oed os oedd Portiwgal yn gallu cynhyrchu'r ddau nwydd ar gost is na Lloegr.

Yn 1814, ymddeolai Ricardo o'i fusnes a symudodd i fyw yn Swydd Gaerloyw. Yn 1819 fe brynodd sedd yn Nhŷ'r Cyffredin a daeth yn Aelod Seneddol dros Portarlington. Bu'n rhaid iddo ymddeol yn 1823 o ganlyniad i afiechyd, a bu farw y flwyddyn honno yn Gatcombe Park, Swydd Gaerloyw, yn 51 oed.


© MMXXIII Rich X Search. We shall prevail. All rights reserved. Rich X Search