Deallusrwydd artiffisial

Gwasanaethferch artiffisial ar wefan siop; 2010.

Technoleg a changen o gyfrifiadureg ydy Deallusrwydd artiffisial sy'n astudio ac yn ceisio datblygu peiriannau a meddalwedd deallus. Mae'r cyhoeddiadau gorau yn y maes hwn yn diffinio system ddeallus fel un sy'n adnabod ei amgylchedd ac yn ymateb iddo er mwyn llwyddo yn ei waith. Credir y gellir ail-greu gwybodaeth neu ddeallusrwydd bodau dynol (Homo sapiens) mewn peiriant; mae llawer o nofelau a ffilmiau'n defnyddio'r thema hon.

Bathwyd y term gan John McCarthy yn 1955, a diffiniodd y term fel "gwyddoniaeth a pheirianeg creu peiriannau deallus."

Mae'n bwnc eithaf arbenigol ac yn un technegol iawn, gyda nifer o is-feysydd sy'n aml iawn yn methu â chyfathrebu â'i gilydd. Y rheswm dros rai o'r is-feysydd hyn yw ffactorau diwylliannol a chymdeithasol gwahanol. Mae rhai'n unigryw i un sefydliad arbennig, neu weithiau un ymchwilydd arbennig. Mae rhai o'r israniadau'n canolbwyntio ar ateb un math o broblem arbennig ac eraill yn ymchwiliadau amrywiol sy'n edrych ar nifer o dduliau i ateb y broblem.

Y broblem (neu'r nod) canolog i ymchwil i ddeallusrwydd artiffisial yw: gwybodaeth, rhesymeg, cynllunio, synhwyro a'r gallu i symud gwrthrychau. Un o'r prif broblemau canolog yw "deallusrwydd cryf" (strong AI) a cheisir ei ddatrys drwy ddulliau sy'n ymwneud ag ystadegaeth, rhesymeg, technoleg gwybodaeth cyfrifiadurol ac AI symbolaidd sef y dull traddodiadol.


© MMXXIII Rich X Search. We shall prevail. All rights reserved. Rich X Search